Mater - cyfarfodydd
ITEM FROM SCRUTINY COMMITTEE - REVIEW OF CABINET DECISION RELATING TO DISPOSAL OF LAND ADJACENT TO YSGOL PENDREF, DENBIGH
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (Eitem 6)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau
(copi ynghlwm) yn nodi casgliadau y daeth y Pwyllgor Craffu iddynt yn dilyn
ystyried penderfyniad y Cabinet a alwyd i mewn ar 22 Medi 2020, o ran cael
gwared ar dir yn ymyl Ysgol Pendref ac argymell i’r Cabinet i ailedrych ar ei
benderfyniad i ystyried casgliadau’r Pwyllgor Craffu ac argymhellion pellach.
Dogfennau ychwanegol:
- SCRUTINY DISPOSAL OF LAND REPORT - ANNEX A, Eitem 6 PDF 782 KB
- SCRUTINY DISPOSAL OF LAND REPORT - ANNEX B, Eitem 6 PDF 299 KB
Penderfyniad:
Pleidlais: 4 o
blaid, 4 yn erbyn, 0 ymataliad; Defnyddiodd yr Arweinydd ei bleidlais fwrw i
bleidleisio o blaid y penderfyniad.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) Yn cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn
ei adolygiad o benderfyniadau’r Cabinet ar 22 Medi 2020;
(b) Ar ôl adolygu eu penderfyniad ac ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu
Cymunedau, gadarnhau penderfyniad y Cabinet ar 22 Medi i:
(i) cymeradwyo
gwaredu tir wrth ymyl Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y
cynllun (Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor, ar y farchnad
agored ar gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a
(ii) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o Effaith ar Les i ystyriaeth
(Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Cymunedau, adroddiad oedd yn rhoi manylion y casgliadau a
gyrhaeddwyd gan y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried y cais galw i mewn o ran
penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020 i gael gwared ar dir ger Ysgol
Pendref, Dinbych, nad oedd y cyngor ei angen mwyach, ar y farchnad agored ar
gyfer datblygiad preswyl.
Hysbyswyd y Cabinet am y trafodaethau manwl a
gynhaliwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau mewn perthynas â
phenderfyniad y Cabinet. Nodwyd
casgliadau’r Pwyllgor Craffu yn yr adroddiad, ynghyd â’i argymhellion. Yn gryno, roedd y Pwyllgor wedi argymell bod
y Cabinet yn -
·
cydnabod casgliadau ac
argymhellion y Pwyllgor Craffu;
·
ailedrych ar ei
benderfyniad gan roi ystyriaeth i’r weledigaeth ar gyfer tai cymdeithasol a
thai fforddiadwy yn y dyfodol fel a nodir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol
newydd drafft, ‘Cymru’r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040’;
·
gohirio’r penderfyniad
o ran y safle penodol hwn am 12 mis, nes i’r fframwaith datblygu cenedlaethol
newydd gael ei gytuno;
·
ystyried opsiynau i
wneud y tir yn fwy deniadol i landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr llai drwy
ei rannu’n barseli/blotiau llai, a
·
peidio creu
gorgyflenwad o dai anfforddiadwy mawr yn Ninbych, nad ydynt yn diwallu angen
lleol.
Fel Aelod Arweiniol, atgoffodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill y Cabinet fod y tir dan sylw wedi cael ei ddyrannu ar gyfer tai
yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn 2013, yn dilyn yr holl brosesau a chamau
ymgynghori priodol. Roedd y tir wedi’i
gadw yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ac felly byddai unrhyw dderbyniad cyfalaf
o’r gwerthiant yn cael ei glustnodi ar gyfer y CRT ac ni ellid ei ddefnyddio ar
gyfer unrhyw ddiben arall. Ymatebodd i argymhellion
y pwyllgor craffu fel a ganlyn -
·
mae fframwaith
datblygu cenedlaethol newydd LlC yn dal i fod ar ei ffurf ddrafft heb unrhyw
arwydd y bydd unrhyw gyllid newydd yn cael ei gynnig i gefnogi’r dyheadau am
dai fforddiadwy.
Er y gallai awdurdodau lleol
gael gafael ar grant tai cymdeithasol o Ebrill 2021 ymlaen, swm penodol
fyddai’r cyllid hwn wedi’i dorri allan o gyllidebau presennol, y byddai angen i
gynghorau ymgeisio yn erbyn ei gilydd amdano a chyfrannu’n ariannol tuag
ato. Byddai’r gyfradd ymyrraeth o 58% ar
gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael ei diogelu ac nid oedd
disgwyl i’r swm i gynghorau fod yn fawr iawn;
·
nid yw gohirio
penderfyniad yn y gobaith y gallai rhywbeth ddigwydd yn y dyfodol yn ffordd
gynaliadwy o wneud penderfyniadau.
Roedd y derbyniad cyfalaf o
werthu’r safle eisoes wedi’i ragdybio yng nghynllun busnes y CRT a byddai
unrhyw oedi yn effeithio ar gyflawniad y cynllun hwnnw, gan arwain at lai o dai
newydd neu lai o waith cynnal a chadw i’r stoc bresennol neu gyfuniad o’r ddau,
a byddai yna gyfnod hirach o aros am dai fforddiadwy ar y safle;
·
roedd yna resymau
pwysig pam na fyddai’n ymarferol rhannu’r safle’n blotiau datblygu llai, sef yr
effaith ar y derbyniad cyfalaf a chost fesul uned y tai fforddiadwy a gynigir,
sy’n codi o gost uwch y datblygiad a gwerth is y tir.
Roedd plotiau llai yn cynyddu
costau ar bob cam o’r datblygiad a byddai angen i gonsortiwm o ddatblygwyr
gytuno ar raglen gyfan o waith cyn prynu.
Gallai’r cyngor ddarparu’r seilwaith ar eu risg a’u cost eu hunain heb
sicrwydd y gallent adennill yr arian gan brynwyr y dyfodol, a byddai hefyd yn
lleihau neu’n negyddu unrhyw dderbyniad cyfalaf;
· o ran creu gorgyflenwad o dai anfforddiadwy nad ydynt yn diwallu angen lleol, byddai’r gwerthiant arfaethedig yn digwydd ar y farchnad agored gydag amod o 20% o ... view the full Cofnodion text for item 6