Mater - cyfarfodydd
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Cyfarfod: 05/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 3)
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Penderfyniad:
Dyma’r Cadeirydd
yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor fod ail gais galw i mewn am benderfyniad gan y
Cabinet wedi’i dderbyn ar ôl cyhoeddi rhaglen a phapurau ar gyfer y cyfarfod
presennol. Gyda’r bwriad o hwyluso’r ail
gais am alw i mewn o fewn yr amserlen wedi'i nodi yn Rheolau Gweithdrefn Galw i
Mewn y Cyngor cytunwyd i'r mater i gael ei drafod yn y cyfarfod presennol fel
eitem fusnes brys.
O ganlyniad mae
papurau atodol yn berthnasol i'r cais a phenderfyniad y Cabinet ar 22 Medi 2020
i gael gwared ar dir cyfagos i Ysgol Pendref, Dinbych wedi cael ei gyhoeddi ar
1 Hydref 2020 ac yn cael ei ystyried o dan eitem busnes 5 yn y cyfarfod
presennol.
Cofnodion:
Datganodd y
Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod (fel eitem 5 ar y
rhaglen) oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo – Adolygu Penderfyniad y
Cabinet o ran ‘Gwaredu tir yn ymyl Ysgol Pendref, Dinbych’.
Roedd yr eitem yn
ymwneud ag ail gais galw i mewn a ddaeth i law yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ac
roedd y Cadeirydd wedi cytuno i’r mater gael ei drafod fel mater brys gyda
bwriad o gyflymu’r cais galw i mewn o fewn y terfynau amser a nodir yn Rheolau
Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor. Roedd
y papurau atodol a oedd yn ymwneud â’r cais galw i mewn wedi’u cyhoeddi ar 1
Hydref 2020.