Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ANALYSIS OF INSPECTION REPORTS

Cyfarfod: 14/10/2020 - Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) (Eitem 6)

6 DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGU pdf eicon PDF 161 KB

Derbyn dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu diweddaraf Estyn (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a’i nodi;

 

(b)       bod llythyr yn cael ei anfon i bob ysgol i roi gwybod iddyn nhw bod Adroddiad o’u Harolwg  wedi ei ystyried, gan eu llongyfarch am yr elfennau da a nodwyd, ac i’w hatgoffa bod yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Swyddogion Gwella Ysgolion ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw faes sydd angen ei ddatblygu neu unrhyw fater allweddol sydd angen mynd i’r afael ag ef, a

 

(c)        bod yr Awdurdod Lleol yn cael cais i ddosbarthu’r llythyrau uchod.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AD adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn dadansoddi canlyniadau arolygon Estyn o ddarpariaeth AD a chyd-addoli mewn tair ysgol rhwng Hydref 2019 – Chwefror 2020. Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy; Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Bryn Hedydd.

 

Ystyriodd yr aelodau’r casgliadau cysylltiedig â phob ysgol ac roeddent yn falch o nodi’r sylwadau a’r canlyniadau cadarnhaol.  Wrth dderbyn fod angen i Estyn ddilyn fformat rhagnodedig wrth cynnal eu harolygon teimlwyd yn gyffredinol y byddai adroddiad ychydig mwy ‘unigol’ ar gyfer pob ysgol yn ychwanegu gwerth a diddordeb.

 

Bu peth trafodaeth ynglŷn sut y mae ysgolion yn gorfod newid ac addasu dan amgylchiadau anodd i ddelio â chyfyngiadau a heriau Covid-19. Rhoddodd yr Ymgynghorydd AD wybodaeth am drafodaethau gyda rhai ysgolion ac amlygodd fanteision gwasanaethau dosbarth llai gyda chyfle i ddisgyblion fynegi eu meddyliau a'u hofnau a siarad am unrhyw broblemau gyda gwir bwrpas, rhywbeth sydd wedi profi i fod yn werthfawr iawn o ran lles disgyblion a staff.  Cefnogodd Jennie Downes y safbwyntiau hyn a soniodd am ei phrofiad gydag ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.  Dywedodd er bod llawer o adnoddau yn mynd allan i’r ysgolion, bod yr ysgolion eu hunain hefyd yn cynhyrchu eu hadnoddau eu hunain a rhoddodd enghraifft i amlygu creadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth a’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud dan amgylchiadau anodd.  Roedd yn teimlo mai’r her yw dod o hyd i ffyrdd o gofnodi’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud mewn ysgolion a'i rannu er budd eraill.  Holodd y Cadeirydd a fyddai modd gofyn am y wybodaeth honno wrth ddosbarthu’r cylchlythyrau  a chytunodd yr Ymgynghorydd AD y byddai’n gwahodd ymatebion anffurfiol o fewn yr e-bost at ysgolion.  Awgrymodd Jennie Downes hefyd y gellid defnyddio Twitter ac amlygu a rhannu’r arfer da sy’n digwydd mewn ysgolion.

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       Derbyn a nodi’r adroddiad;

 

(b)       Anfon llythyr i bob ysgol a arolygwyd i roi gwybod iddynt fod yr Adroddiad Arolygu wedi’i ystyried, a'u llongyfarch ar y nodweddion da a amlygwyd a'u hatgoffa bod yr Uwch Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Swyddogion Gwella Ysgolion ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw faes sydd angen ei ddatblygu neu unrhyw fater sydd angen mynd i’r afael ag ef.

 

(c)        y dylid gofyn i'r Awdurdod Lleol ddosbarthu'r llythyrau uchod