Mater - cyfarfodydd
ANALYSIS OF INSPECTION REPORTS
Cyfarfod: 14/10/2020 - Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) (Eitem 6)
6 DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGU PDF 161 KB
Derbyn
dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu diweddaraf Estyn (copi’n amgaeedig).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol.
PENDERFYNWYD –
(a) bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a’i nodi;
(b) bod llythyr yn cael ei anfon i bob ysgol i roi gwybod iddyn nhw bod
Adroddiad o’u Harolwg wedi ei ystyried,
gan eu llongyfarch am yr elfennau da a nodwyd, ac i’w hatgoffa bod yr
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Swyddogion Gwella Ysgolion ar gael i
gynorthwyo gydag unrhyw faes sydd angen ei ddatblygu neu unrhyw fater allweddol
sydd angen mynd i’r afael ag ef, a
(c) bod yr Awdurdod Lleol yn cael cais i ddosbarthu’r llythyrau uchod.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AD adroddiad (a
ddosbarthwyd eisoes) yn dadansoddi canlyniadau arolygon Estyn o ddarpariaeth AD
a chyd-addoli mewn tair ysgol rhwng Hydref 2019 – Chwefror 2020. Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy; Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Bryn
Hedydd.
Ystyriodd yr aelodau’r casgliadau cysylltiedig â phob ysgol ac roeddent
yn falch o nodi’r sylwadau a’r canlyniadau cadarnhaol. Wrth dderbyn fod angen i Estyn ddilyn
fformat rhagnodedig wrth cynnal eu harolygon teimlwyd yn gyffredinol y byddai
adroddiad ychydig mwy ‘unigol’ ar gyfer pob ysgol yn ychwanegu gwerth a
diddordeb.
Bu peth trafodaeth ynglŷn sut y mae ysgolion
yn gorfod newid ac addasu dan amgylchiadau anodd i ddelio â chyfyngiadau a
heriau Covid-19. Rhoddodd yr Ymgynghorydd AD wybodaeth am drafodaethau gyda
rhai ysgolion ac amlygodd fanteision gwasanaethau dosbarth llai gyda chyfle i
ddisgyblion fynegi eu meddyliau a'u hofnau a siarad am unrhyw broblemau gyda
gwir bwrpas, rhywbeth sydd wedi profi i fod yn werthfawr iawn o ran lles
disgyblion a staff. Cefnogodd Jennie Downes y safbwyntiau hyn a soniodd am ei phrofiad gydag
ysgolion yr Eglwys yng Nghymru. Dywedodd er bod llawer o adnoddau yn mynd allan i’r ysgolion, bod yr
ysgolion eu hunain hefyd yn cynhyrchu eu hadnoddau eu hunain a rhoddodd
enghraifft i amlygu creadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth a’r gwaith anhygoel
sy’n cael ei wneud dan amgylchiadau anodd. Roedd yn teimlo mai’r her yw dod o hyd i ffyrdd o
gofnodi’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud mewn ysgolion a'i rannu er budd
eraill. Holodd y Cadeirydd a fyddai modd gofyn am y wybodaeth honno wrth
ddosbarthu’r cylchlythyrau a chytunodd
yr Ymgynghorydd AD y byddai’n gwahodd ymatebion anffurfiol o fewn yr e-bost at
ysgolion. Awgrymodd Jennie Downes hefyd y gellid defnyddio Twitter ac amlygu a
rhannu’r arfer da sy’n digwydd mewn ysgolion.
PENDERFYNWYD –
(a) Derbyn a nodi’r adroddiad;
(b) Anfon llythyr i bob ysgol a arolygwyd i roi gwybod iddynt fod yr Adroddiad
Arolygu wedi’i ystyried, a'u llongyfarch ar y nodweddion da a amlygwyd a'u
hatgoffa bod yr Uwch Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Swyddogion Gwella
Ysgolion ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw faes sydd angen ei ddatblygu neu
unrhyw fater sydd angen mynd i’r afael ag ef.
(c) y dylid gofyn i'r Awdurdod Lleol ddosbarthu'r llythyrau uchod