Mater - cyfarfodydd
COMMITTEE TIMETABLE 2021
Cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Eitem 9)
9 AMSERLEN BWYLLGORAU 2021 PDF 207 KB
Derbyn adroddiad
sy’n cynnwys amserlen ddrafft pwyllgorau ar gyfer 2021 (copi’n amgaeedig).
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Table of dates, Eitem 9 PDF 271 KB
- Appendix 1(ii) 2021 YEAR PLANNER, Eitem 9 PDF 145 KB
- Appendix 1 (iii) EXPLANATORY DOCUMENT, Eitem 9 PDF 219 KB
Penderfyniad:
Roedd
cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd
holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu
bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.
Penderfynodd y
Pwyllgor: -
Bod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn argymell wrth y Cyngor Llawn y dylid cymeradwyo’r
amserlen bwyllgorau drafft ar gyfer 2021.
Cofnodion:
Arweiniodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau trwy'r amserlen
Bwyllgorau arfaethedig ar gyfer y gylched cyfarfodydd nesaf (rhannwyd yn
flaenorol) Diolchodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i’r Clerc Pwyllgor,
Kath Jones am gynhyrchu’r amserlen arfaethedig.
Cafodd yr aelodau wybod y byddai’r amserlen yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod
nesaf y Cyngor Llawn ar gyfer cymeradwyaeth. Glynwyd at y cytundebau blaenorol
ar ddatblygiad yr amserlen lle bynnag bosibl. Roedd y toriad ym mis Awst wedi
cael ei gynnwys yn ôl y blynyddoedd blaenorol. Y Cyngor Llawn oedd â’r
penderfyniad i newid y gylched o gyfarfodydd.
Diolchodd y Cadeirydd a’r aelodau i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’r
staff Pwyllgorau am y gwaith oedd wedi ei gyflawni i baratoi’r adroddiad.
Felly,
PENDERFYNWYD, bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn
argymell y dylid cymeradwyo’r amserlen bwyllgorau ar gyfer 2021 i’r Cyngor
llawn.