Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ANNUAL REPORT OF THE COUNCIL'S SCRUTINY COMMITTEE 2019/20

Cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Eitem 6)

6 ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU CRAFFU'R CYNGOR 2019/2020 pdf eicon PDF 232 KB

Derbyn adroddiad blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar eu gweithgareddau yn ystod 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn. Felly:

 

PENDERFYNWYD:- Bod y Pwyllgor Gwasanaethu Democrataidd yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2019/20.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, y Cynghorydd Graham Timms yr adroddiad (rhannwyd yn flaenorol), i geisio sylwadau aelodau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Blynyddol.   

Nodwyd bod yr adroddiadau blynyddol blaenorol wedi amlygu meysydd allweddol o waith craffu. Amlygwyd bod yr adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar waith bob pwyllgor Craffu.

Cafodd yr aelodau wybod am nodwedd newydd o fewn yr adroddiad. Roedd yr adran hon yn canolbwyntio ar y gwaith Craffu a gwblhawyd yn gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol. Dywedodd Cadeirydd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu bod hyn wedi cael ei dderbyn yn gadarnhaol gyda’r grŵp ac yn dangos y gwaith pwysig a wneir gan Graffu.

Cyfeiriwyd yn benodol i’r diweddar Gynghorydd Huw Jones o fewn yr adroddiad, gan dalu teyrnged i’w ymrwymiad i'w waith Cyngor. Nodwyd diolchiadau i’r Cynghorydd Hugh Irving am gadeirio’r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd adroddiad ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ei gynnwys a oedd yn pwysleisio'r anawsterau o ran trefnu’r cyfarfodydd hyn. Y gobaith oedd y byddai'r cyfarfodydd hyn yn parhau ac yn datblygu dros y flwyddyn nesaf. Eglurodd Cadeirydd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu bod adroddiadau cryno ar y grwpiau tasg a gorffen a’u canfyddiadau, Adroddiadau Craffu Archwilio Cymru ac ymgysylltu â'r gymuned wedi eu cynnwyd yn yr adroddiad cyffredinol.

Roedd aelodau eisiau diolch i’r Cydlynydd Craffu am yr amser, ymrwymiad a’r gwaith caled wrth gwblhau’r adroddiad a’r trefniadau craffu parhaus.

 

Pwysleisiodd y Cydlynydd Craffu ar yr anhawster o ran trefnu cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu. Cadarnhawyd bod cyfarfod wedi’i drefnu ym mis Tachwedd i’w gynnal o bell. Gobeithiwyd y byddai'r dull hwn yn ei gwneud yn haws i aelodau fynychu.

 

Yn ystod y drafodaeth, atgoffwyd yr aelodau mai rôl Craffu oedd cynorthwyo a herio’r Cabinet a’r penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet a swyddogion. Roedd yr aelodau’n teimlo bod gwaith Craffu yn bwysig iawn. Pwysleisiodd Cydlynydd Craffu bod y Grwpiau Tasg a Gorffen wedi dylanwadu polisïau a gweithdrefnau o fewn y Cyngor.   

Eglurwyd bod gan y cyfarfodydd ffurfiol cyn pandemig Covid-19 rwymedigaeth i gyhoeddi rhaglenni a phapurau cyn y cyfarfod. Roedd rhai i’r cyfarfodydd ffurfiol gael eu gwneud yn hygyrch i’r cyhoedd. Atgoffwyd y pwyllgor bod Safonau’r Gymraeg yn Sir Ddinbych yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarfodydd cyhoeddus hwyluso cyfraniadau dwyieithog gyda chyfieithydd. Hyd nes i’r cyngor fod mewn safle i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus eto, roedd yr adroddwr democratiaeth lleol yn cael ei wahodd i fynychu cyfarfodydd pwyllgor a Chyngor.

Darparwyd cadarnhad gan y Cydlynydd Craffu bod y grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion wedi adolygu'r Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol o adroddiadau. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw adroddiadau wedi cael eu tynnu yn sgil pandemig Covid-19.

Roedd yr aelodau yn falch o glywed wrth i bawb ddod yn fwy cyfarwydd â chyfarfodydd o bell, y byddai'r briffiau rhag-gyfarfod ar gyfer aelodau craffu yn ailddechrau.  

 

PENDERFYNWYD, bod y Pwyllgor Gwasanaethu Democrataidd yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2019/20.

Members were pleased to hear that as familiarity with remote meetings grew the pre-meeting briefings for Scrutiny members would recommence.