Mater - cyfarfodydd
ANNUAL REVIEW OF POLITICAL BALANCE AND APPOINTMENT OF SCRUTINY CHAIRS
Cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Eitem 8)
8 ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION Y PWYLLGORAU CRAFFU PDF 213 KB
Derbyn yr
adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol a phenodi Cadeiryddion Craffu
(copi'n amgaeedig).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl
aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod
yn erbyn. Felly:
Penderfynwyd:- Bod y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd yn ystyried safle cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi
pwyllgor. |
Cofnodion:
Arweiniodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau trwy’r adroddiad (rhannwyd yn flaenorol),
gan gyflwyno manylion aelodaeth ar gyfer bob pwyllgor. Amlygodd bod y pwyllgorau angen
cynrychiolaeth o'r grwpiau i gwblhau eu aelodaeth.
Yn ystod y
drafodaeth, cyfeiriodd yr aelodau at newidiadau diweddar i aelodaeth craffu
oedd eu hangen o’r newidiadau i aelodaeth grwpiau gwleidyddol. Nodwyd bod y newidiadau i aelodaeth y grŵp wedi arwain at newid mewn
cydbwysedd gwleidyddol a oedd yn effeithio pwyllgorau a grwpiau penodol.
Rhoddwyd pwyslais
ar yr anawsterau penodol a brofwyd gan y grwpiau gwleidyddol. Cyfeiriwyd yn
benodol at yr anawsterau a wynebwyd o ran aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio yn
sgil rheoliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â wardiau aml-aelodau. Cadarnhawyd
y byddai’r arweinwyr ac aelodau’r grŵp yn trafod ac yn cytuno ar aelodaeth
y Pwyllgor Cynllunio lle roedd 2 aelod o’r un ward wedi datgan diddordeb i fod
yn rhan o’r pwyllgor.
Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
bod pryderon y pwyllgor yn cael eu codi i'r arweinwyr grŵp er mwyn
ystyried aelodaeth y pwyllgorau gyda phwyslais penodol ar aelodaeth y Pwyllgor
Cynllunio. Cytunodd yr
aelodau y dylai’r pryderon gael eu codi gyda’r arweinwyr grŵp.
Diolchodd y
Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad, a dywedodd ei fod yn gynhwysfawr ac
yn ddefnyddiol iawn. Felly,
PENDERFYNWYD, bod
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi’r adroddiad ar safle cydbwysedd
gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi pwyllgor. Cytunwyd y byddai Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd yn gofyn i arweinwyr
adolygu aelodaeth gyfredol y Pwyllgor Cynllunio.