Mater - cyfarfodydd
INDEPENDENT REMUNERATION PANEL FOR WALES ANNUAL REPORT 2020 / 2021
Cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Eitem 7)
7 ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2020 / 2021 PDF 214 KB
Derbyn adroddiad
blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y ‘Panel’) ar
gyfer 2020/21 (copi’n amgaeedig).
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 to IRP Report, Eitem 7 PDF 100 KB
- Appendix 2 - annual-report-2020-to-2021, Eitem 7 PDF 1 MB
Penderfyniad:
Gofynnodd yr
aelodau bod rhagor o waith yn cael ei gynnal ar ddyrannu uwch gyflogau a
chyflwyno’r gwaith yn ôl i’r pwyllgor yn ddiweddarach. Roedd cytundeb ar yr
argymhelliad trwy gonsensws. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn. Felly: |
PENDERFYNWYD -
I.
Bod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn nodi penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21 mewn perthynas â thalu cyflogau
sylfaenol, uwch a dinesig a thaliadau i aelodau cyfetholedig.
II.
Bod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn nodiadau lefel y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i
aelodau i ymgymryd â'u dyletswyddau, o ran 'Penderfyniadau' 9 a 10 yr Adroddiad
Blynyddol.
III.
Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn i'r
Grŵp 'Ffyrdd Newydd o Weithio' edrych ar ddyrannu
uwch gyflogau ac adrodd yn ôl
i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ddiweddarach.
Cofnodion:
Cyflwynodd
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) oedd
yn ymwneud ag adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol (IRPW) 2020/21.
Roedd yn ofynnol
i'r Panel gynhyrchu adroddiad blynyddol yn nodi lefelau tâl yr aelodau ar gyfer
gwahanol ddyletswyddau a chyfrifoldebau ar gyfer blwyddyn y Cyngor. Cyhoeddwyd
yr adroddiad ym mis Chwefror 2020. Cadarnhawyd bod y Panel wedi penderfynu
darparu cynyddiad o £350 i bob cynghorydd heb unrhyw gynyddiadau ychwanegol tu
hwnt i'r hyn a dalwyd i ddeiliaid cyflogau uwch yn 2020.
Roedd gan Gyngor
Sir Ddinbych gap o 17 o gyflogau uwch y gellid eu talu. Roedd y Panel wedi
gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i roi sylw penodol i Benderfyniad
9 a 10 o fewn yr adroddiad blynyddol.
Trafododd yr aelodau'r meysydd canlynol yn fanylach:
- Roedd y
cyflog uwch a ddarparwyd i arweinydd y grŵp yr wrthblaid fwyaf yn
gyflog roedd rhaid i’w awdurdod ei wneud. Cododd rhai aelodau bryderon nad oedd
arweinwyr y pleidiau eraill yn derbyn yr un gydnabyddiaeth ariannol ag arweinydd
yr wrthblaid fwyaf. Gofynnodd aelodau i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd
roi adborth i'r Panel am eu pryderon o ran y gofyniad cyfreithiol i gynnig
cyflog i Arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac nid i arweinwyr y pleidiau
eraill. Gofynnwyd am eglurhad a rhesymeg gan y Panel.
- Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir
Ddinbych 2 Gyflog Uwch ar gael. Cafwyd cadarnhad bod y penderfyniad o ran
pwy oedd yn derbyn y rolau cyflogau uwch yn benderfyniad y Cyngor Llawn.
- Teimlai aelodau bod angen gofal wrth
edrych ar ddyraniad Cyflogau Uwch i aelodau. Eglurodd Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd sut oedd y
dyraniad cyfredol o gyflogau uwch yn cael eu dyrannu.
- Roedd yr agwedd amrywiaeth yn yr
adroddiad yn bwysig. Darparwyd
cadarnhad bod gan Lywodraeth Cymru gynllun gweithredu ar gyfer amrywiaeth
o fewn cynrychiolaeth awdurdod lleol.
- Credai’r aelodau bod cysylltiad band
eang da yn hanfodol. Gyda chyflwyniad y cyfarfodydd o bell, roedd yn
hanfodol cael cysylltiad rhyngrwyd da er mwyn galluogi aelodau i gael
mynediad at gyfarfodydd. Adroddodd
y Panel nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i gefnogi technoleg,
dyfeisiau a chysylltiad band eang ychwanegol. Roedd y problemau hyn angen
cael eu datrys gan awdurdodau lleol unigol.
- Gofynnodd yr aelodau i'r dyraniad o
daliadau cyflogau uwch gael eu hadolygu gan ffyrdd newydd y gweithgor.
Byddai unrhyw waith a wneir gan y gweithgor yn cael ei gyflwyno yn ôl i’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Teimlodd y Cynghorydd Timms bod y
penderfyniad i adolygu cyflogau’r uwch aelodau yn benderfyniad ar gyfer y
Cyngor nesaf nid yr aelodau presennol, nid oedd yn cytuno bod angen i’r
gweithgor adolygu’r trefniadau presennol.
Felly:
PENDERFYNWYD,
- bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
yn nodi penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
ar gyfer 2020/21 mewn perthynas â thalu cyflogau sylfaenol, uwch a dinesig
a thaliadau i aelodau cyfetholedig.
- Bod y
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried lefel y gefnogaeth a roddir
i aelodau i ymgymryd â’u
dyletswyddau, o ran ‘Penderfyniadau’ 9 a 10 yr Adroddiad Blynyddol.
- Bod cais yn cael ei wneud i ffyrdd newydd y
gweithgor i edrych ar ddyraniad y cyflogau uwch ac adrodd yn ôl i’r
pwyllgor hwn.