Mater - cyfarfodydd
COVID-19 RECOVERY PLAN
Cyfarfod: 02/10/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Eitem 5)
5 CYNLLUN ADFERIAD COVID-19 AR GYFER Y GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD PDF 224 KB
I dderbyn
adroddiad am Gynllun Adferiad Covid-19 ar gyfer y Gwasanaethau Democrataidd (copi'n
amgaeedig).
Penderfyniad:
Roedd cytundeb
ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Mynegodd
aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad. Y Pwyllgor:
PENDERFYNODD:- yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cefnogi’r
cynllun adfer ar gyfer trefniadau democrataidd, fel yr amlinellir yn Atodiad 1
i’r adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad
Strategol yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) a rhoddodd gefndir cryno ar y
gwaith a gyflawnwyd yn ystod pandemig Covid-19. Amlygwyd bod pawb ynghlwm
wedi gweithio yn hynod o galed i gynnal gwasanaethau lle bynnag bosibl. Darparwyd
eglurdeb ar y penderfyniadau a wnaed gan ddefnyddio’r pwerau argyfwng. Roedd
gan yr Arweinydd y pŵer i wneud penderfyniad a fyddai wedi gorfod cael ei
wneud mewn cyfarfod Cabinet fel arall. Dim ond dwywaith y mabwysiadwyd y broses
penderfyniad dirprwyedig, ac roedd aelodau'r Cabinet wedi gweld yr adroddiadau
cyn i'r penderfyniad gael ei wneud.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd, hyd yn hyn yr unig ddull o gynnal cyfarfodydd gyda gwasanaethu
cyfieithu ar y pryd oedd trwy’r llwyfan Zoom. Cadarnhawyd bod y gwaith i
weithredu Zoom ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus yn mynd rhagddo. Cafodd yr
aelodau wybod am faterion technegol a ddigwyddodd i ddiweddaru Siambr y Cyngor
er mwyn cynnal cyfarfodydd hybrid, ac i’r cyfarfodydd hynny gael eu
gweddarlledu. Cadarnhawyd bod nifer o gyfarfodydd wedi ailddechrau gydag
amserlen llawn o gyfarfodydd o fis Medi 2020.
Diolchodd yr aelodau i’r Aelod Arweiniol a swyddogion am y wybodaeth a
ddarparwyd yn ystod y drafodaeth a chodwyd y pwyntiau canlynol:
- Cyn
pandemig Covid-19 roedd y gyfraith yn datgan bod cyfarfodydd hybrid yn
caniatáu i 70% o aelodau fynychu o bell cyhyd a bod 30% o aelodau yn
mynychu yn yr ystafell gyfarfod a bod pawb yn gallu cael eu gweld a’u
clywed. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus erioed i
Gynghorau lleol gynnal cyfarfodydd o bell. Mae’r rheoliadau hyn wedi cael
eu llacio yn ystod y pandemig gan ddatgan y gall Awdurdodau Lleol gynnal
cyfarfodydd yn gyfan gwbl o bell. Roedd disgwyl rheoliadau a chanllawiau
pellach.
- Roedd yr
aelodau yn teimlo bod cyfathrebu gydag arweinwyr grŵp yn ystod y
pandemig wedi gweithio’n dda. Gydag arweinwyr grŵp yn rhannu
gwybodaeth a sylwadau i aelodau mewn cyfarfodydd grŵp wythnosol, ar
gyfer unrhyw adborth i’r Cabinet.
- Roedd yr
holiadur yn gofyn am adborth ar gyfarfodydd o bell wedi cau, dywedodd
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n gweld os oedd modd ail-agor
yr holiadur i’r rhai nad oedd wedi ei gwblhau. Byddai’r gweithgor yn
archwilio’r adborth o holiaduron aelodau.
- Roedd y
Cyngor wedi cytuno cynnal cyfarfodydd Zoom ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus
gyda’r angen am gyfieithu ar y pryd yn unig, unwaith bod modd gwneud
hynny. Roedd Awdurdodau eraill wedi cynnal cyfarfodydd Zoom heb lawer o
broblemau. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataid bod y bwriad i
gyfieithu a darlledu cyfarfodydd yn gyhoeddus yn parhau i fod yn
flaenoriaeth.
- Dywedodd
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n anfon e-bost i’r aelodau
gydag aelodaeth lawn y gweithgor. Gofynnwyd am enwebiadau gan grwpiau
trwy'r arweinwyr grŵp.
- Byddai
gweithio o bell o fantais i allyriadau carbon ac ôl troed Sir Ddinbych.
Diolchodd yr aelodau i swyddogion am yr ymatebion manwl i bryderon a
chwestiynau a godwyd gan aelodau. Felly,
PENDERFYNWYD, bod yr aelodau yn nodi'r cynllun adfer a'r trefniadau democrataidd a nodwyd yn yr adroddiad.