Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL CORONAVIRUS RESPONSE

Cyfarfod: 30/06/2020 - Cabinet (Eitem 5)

5 YMATEB CYNGOR SIR DDINBYCH I’R CORONAFEIRWS pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi wedi’i amgáu) yn diweddaru’r Cabinet am reoli effeithiau pandemig y Coronafeirws yn Sir Ddinbych a gogledd Cymru, a cheisio cymeradwyaeth ar y broses i reoli’r adferiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad, cefnogi’r camau a gymerwyd a chytuno ar y camau nesaf fel y nodwyd o fewn yr adroddiad. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ynglŷn ag effaith pandemig y Coronafeirws ar Sir Ddinbych a gogledd Cymru, ac roedd yn ceisio cytundeb ar y broses i reoli’r adferiad sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at y dull unedig ac arloesol a gymerwyd wrth ymateb i’r Coronafeirws. Rhoddodd deyrnged i bawb sydd wedi bod yn cydweithio tra’n wynebu heriau anodd er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau, addasu trefniadau democrataidd a llywodraethu,  a sicrhau penderfyniadau cyflym ac ymatebion amserol i gyhoeddiadau gweinidogol. Gan edrych ymlaen tuag at adferiad, cynigiwyd nifer o themâu eang ynghyd â mesurau i sicrhau ymgysylltiad aelodau wrth ffurfio a chyflwyno’r cynllun adferiad ac ailsefydlu prosesau democrataidd mwy arferol megis craffu.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr deyrnged hefyd i staff ac aelodau am eu gwaith a’u cefnogaeth ddiweddar.  Fe aeth drwy’r adroddiad gyda’r aelodau fel a ganlyn -

 

·         amlinellodd drefniadau cynllunio rhag argyfwng a rôl y Tîm Rheoli Argyfwng Strategol wrth fynd i’r afael â materion strategol a gweithredol a datblygu gwasanaethau a dulliau newydd o gyflwyno gwasanaethau

·         fe soniodd am yr ymateb rhanbarthol sy’n cael ei oruchwylio gan y Grŵp Cydgysylltu Strategol

·         dywedodd fod natur y pandemig yn golygu fod y cyfnod ymateb yn debygol o barhau am gryn amser ochr yn ochr â’r cyfnod adferiad

·         fe eglurodd y byddai’r cyfnod adferiad yn golygu ailddechrau gwasanaethau’n ddiogel a chydweithio’n rhanbarthol wrth gynllunio adferiad effaith Covid-19 yn y dyfodol

·         cynigiodd y byddai llywodraethu mewnol ynglŷn ag adferiad yn canolbwyntio ar nifer o brif themâu a byddai gan bob un swyddog arweiniol ac aelod arweiniol dynodedig

·         cadarnhaodd y byddai’r broses adferiad yn rhanbarthol yn cael ei harwain gan Grŵp Cydlynu Adferiad aml asiantaeth a fyddai’n ymdrin â themâu rhanbarthol allweddol, a

·         rhoddodd fanylion am effaith ariannol Covid-19 oedd eisoes yn sylweddol, a chadarnhaodd y byddai newyddion diweddaraf yn cael ei roi i aelodau’n rheolaidd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Mainon at ei adroddiad i Arweinwyr Grwpiau (Atodiad 3 yr adroddiad) oedd yn manylu ar drefniadau dros dro i gynnwys aelodau ehangach y Cyngor yn yr ymateb adferiad, gyda phwyslais ar gynhwysiant, gan ystyried yr angen am her effeithiol a phenderfyniadau cyflym ac effeithlon. Roedd yr ymateb i’r cynigion wedi bod yn galonogol ac wedi’u derbyn yn gadarnhaol gan aelodau ac Arweinwyr Grwpiau wrth iddynt weithio gyda’u gilydd ac yn hyblyg i fynd i’r afael ag amgylchiadau gwahanol a’r angen am benderfyniadau ar frys.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Fe dynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at waith gwerthfawr Denbighshire Leisure Limited (DLL) yn ystod y cyfnod clo, yn cynnwys adleoli staff i helpu meysydd gwasanaeth eraill, a rhoddodd deyrnged i’w gwaith caled yn ystod yr amser anodd yma i’r gwasanaeth. Roedd y Cabinet yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi y rôl roedd DLL wedi’i chwarae.

·         Diolchodd y Cynghorydd Mark Young i’r staff o adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd am eu holl waith caled, ymroddiad a phroffesiynoldeb wrth gynnal Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a’u dyletswyddau eraill. Roedd y cyngor a chymorth gwerthfawr a ddarparwyd eisoes wedi cael ei gydnabod yn rhanbarthol yn eu hymateb i'r clwstwr o achosion ar Ynys Môn ac yn Wrecsam. O ystyried pwysigrwydd amlwg y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu, gofynnodd am ymrwymiad i helpu sicrhau cyllid digonol er mwyn i'r adran barhau â'r gwaith. Roedd yr Arweinydd yn cydnabod rôl holl bwysig y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a mynegodd ei werthfawrogiad am waith y swyddogion oedd yn ogystal â’u dyletswyddau arferol.  O ystyried ansicrwydd yn y dyfodol o ran yr adnoddau angenrheidiol a’r effaith posibl ar wasanaethau eraill mae'n  ...  view the full Cofnodion text for item 5