Mater - cyfarfodydd
DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL CORONAVIRUS RESPONSE
Cyfarfod: 30/06/2020 - Cabinet (Eitem 5)
5 YMATEB CYNGOR SIR DDINBYCH I’R CORONAFEIRWS PDF 241 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol (copi wedi’i amgáu) yn diweddaru’r Cabinet am
reoli effeithiau pandemig y Coronafeirws yn Sir Ddinbych a gogledd Cymru, a
cheisio cymeradwyaeth ar y broses i reoli’r adferiad.
Dogfennau ychwanegol:
- DCC CORONAVIRUS REPORT - APP 1, Eitem 5 PDF 97 KB
- DCC CORONAVIRUS REPORT - APP 2, Eitem 5 PDF 91 KB
- DCC CORONAVIRUS REPORT - APP 3, Eitem 5 PDF 139 KB
Penderfyniad:
Pleidleisiwyd: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad, cefnogi’r camau a gymerwyd a chytuno ar
y camau nesaf fel y nodwyd o fewn yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ynglŷn ag effaith
pandemig y Coronafeirws ar Sir Ddinbych a gogledd Cymru, ac roedd yn ceisio
cytundeb ar y broses i reoli’r adferiad sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.
Tynnodd
yr Arweinydd sylw at y dull unedig ac arloesol a gymerwyd wrth ymateb i’r
Coronafeirws. Rhoddodd deyrnged i bawb sydd
wedi bod yn cydweithio tra’n wynebu heriau anodd er mwyn cyflawni’r canlyniadau
gorau, addasu trefniadau democrataidd a llywodraethu, a sicrhau penderfyniadau cyflym ac ymatebion
amserol i gyhoeddiadau gweinidogol. Gan
edrych ymlaen tuag at adferiad, cynigiwyd nifer o themâu eang ynghyd â mesurau
i sicrhau ymgysylltiad aelodau wrth ffurfio a chyflwyno’r cynllun adferiad ac
ailsefydlu prosesau democrataidd mwy arferol megis craffu.
Rhoddodd y Prif Weithredwr deyrnged hefyd i staff ac aelodau am eu
gwaith a’u cefnogaeth ddiweddar. Fe aeth drwy’r adroddiad
gyda’r aelodau fel a ganlyn -
·
amlinellodd drefniadau
cynllunio rhag argyfwng a rôl y Tîm Rheoli Argyfwng Strategol wrth fynd i’r
afael â materion strategol a gweithredol a datblygu gwasanaethau a dulliau
newydd o gyflwyno gwasanaethau
·
fe soniodd am yr ymateb
rhanbarthol sy’n cael ei oruchwylio gan y Grŵp Cydgysylltu Strategol
·
dywedodd fod natur y pandemig yn
golygu fod y cyfnod ymateb yn debygol o barhau am gryn amser ochr yn ochr â’r
cyfnod adferiad
·
fe eglurodd y byddai’r cyfnod
adferiad yn golygu ailddechrau gwasanaethau’n ddiogel a chydweithio’n
rhanbarthol wrth gynllunio adferiad effaith Covid-19 yn y dyfodol
·
cynigiodd y byddai
llywodraethu mewnol ynglŷn ag adferiad yn canolbwyntio ar nifer o brif
themâu a byddai gan bob un swyddog arweiniol ac aelod arweiniol dynodedig
·
cadarnhaodd y byddai’r broses
adferiad yn rhanbarthol yn cael ei harwain gan Grŵp Cydlynu Adferiad aml
asiantaeth a fyddai’n ymdrin â themâu rhanbarthol allweddol, a
·
rhoddodd fanylion am effaith
ariannol Covid-19 oedd eisoes yn sylweddol, a chadarnhaodd y byddai newyddion
diweddaraf yn cael ei roi i aelodau’n rheolaidd.
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Richard Mainon at ei adroddiad i Arweinwyr Grwpiau (Atodiad 3 yr
adroddiad) oedd yn manylu ar drefniadau dros dro i gynnwys aelodau ehangach y
Cyngor yn yr ymateb adferiad, gyda phwyslais ar gynhwysiant, gan ystyried yr
angen am her effeithiol a phenderfyniadau cyflym ac effeithlon. Roedd yr ymateb i’r cynigion wedi bod yn galonogol
ac wedi’u derbyn yn gadarnhaol gan aelodau ac Arweinwyr Grwpiau wrth iddynt
weithio gyda’u gilydd ac yn hyblyg i fynd i’r afael ag amgylchiadau gwahanol
a’r angen am benderfyniadau ar frys.
Codwyd
y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -
·
Fe dynnodd y Cynghorydd Bobby
Feeley sylw at waith gwerthfawr Denbighshire Leisure Limited (DLL) yn ystod y cyfnod
clo, yn cynnwys adleoli staff i helpu meysydd gwasanaeth eraill, a rhoddodd
deyrnged i’w gwaith caled yn ystod yr amser anodd yma i’r gwasanaeth. Roedd y Cabinet yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi y
rôl roedd DLL wedi’i chwarae.
· Diolchodd y Cynghorydd Mark Young i’r staff o adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd am eu holl waith caled, ymroddiad a phroffesiynoldeb wrth gynnal Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a’u dyletswyddau eraill. Roedd y cyngor a chymorth gwerthfawr a ddarparwyd eisoes wedi cael ei gydnabod yn rhanbarthol yn eu hymateb i'r clwstwr o achosion ar Ynys Môn ac yn Wrecsam. O ystyried pwysigrwydd amlwg y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu, gofynnodd am ymrwymiad i helpu sicrhau cyllid digonol er mwyn i'r adran barhau â'r gwaith. Roedd yr Arweinydd yn cydnabod rôl holl bwysig y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a mynegodd ei werthfawrogiad am waith y swyddogion oedd yn ogystal â’u dyletswyddau arferol. O ystyried ansicrwydd yn y dyfodol o ran yr adnoddau angenrheidiol a’r effaith posibl ar wasanaethau eraill mae'n ... view the full Cofnodion text for item 5