Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ATTENDANCE AT MEETINGS

Cyfarfod: 04/09/2020 - Pwyllgor Safonau (Eitem 6)

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd y Fforwm

Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a Chynghorau Sir, Tref a Chymuned a

derbyn eu hadroddiadau.

Penderfyniad:

Bu i’r aelodau drafod yr anhawster o ran mynychu cyfarfodydd cyhoeddus oherwydd cyfyngiadau yn ymwneud â phandemig Covid- 19.

 

Penderfynwyd:

      i.        Os yw aelodau yn dymuno mynychu cyfarfod Dinas/Tref/Cymuned, i hysbysu’r Swyddog Monitro i gynorthwyo i wneud y trefniadau angenrheidiol.

 

Cofnodion:

Nodwyd ers y cyfarfod diwethaf, oherwydd y cyfyngiadau, nad oedd aelodau wedi gallu mynychu unrhyw gyfarfodydd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro (SM) bod Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r rheoliadau yn ymwneud â chyfarfodydd o bell. Byddai’r awdurdod yn annog Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i gynnal cyfarfodydd o bell wrth fynd ymlaen. Dywedodd SM bod yr awdurdod wedi profi dulliau o gynnal trefniadau gweithio o bell ar lwyfannau amgen. Roedd nodyn briffio wedi cael ei ddosbarthu i glercod i gynnig arweiniad. Roedd canllawiau wedi’u darparu hefyd gan Un Llais Cymru.

 

Datganodd y SM y dylai aelodau sy’n dymuno mynychu unrhyw gyfarfodydd ei hysbysu ef. Byddai’n ymgynghori â’r clerc perthnasol wedyn i wneud trefniadau i fynychu yn bersonol neu o bell. Roedd aelodau’n falch o glywed y byddai’n bosibl mynychu cyfarfodydd o bell. Amlygwyd y byddai cynnal cyfarfodydd o bell o bosibl yn annog mwy o ddiddordeb gan y cyhoedd mewn cyfarfodydd cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r SM am ei gefnogaeth i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ac anogodd aelodau i gysylltu â’r SM yn uniongyrchol am gefnogaeth wrth fynychu cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD - nodi’r pwyntiau y soniwyd amdanynt uchod.