Mater - cyfarfodydd
ATTENDANCE AT MEETINGS
Cyfarfod: 04/09/2020 - Pwyllgor Safonau (Eitem 6)
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD
Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd y Fforwm
Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a Chynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau.
Penderfyniad:
Bu i’r aelodau
drafod yr anhawster o ran mynychu cyfarfodydd cyhoeddus oherwydd cyfyngiadau yn
ymwneud â phandemig Covid- 19.
Penderfynwyd:
i.
Os yw aelodau yn dymuno mynychu cyfarfod
Dinas/Tref/Cymuned, i hysbysu’r Swyddog Monitro i gynorthwyo i wneud y
trefniadau angenrheidiol.
Cofnodion:
Nodwyd ers y
cyfarfod diwethaf, oherwydd y cyfyngiadau, nad oedd aelodau wedi gallu mynychu
unrhyw gyfarfodydd.
Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro (SM) bod Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r rheoliadau yn ymwneud
â chyfarfodydd o bell. Byddai’r awdurdod yn annog Cynghorau Dinas, Tref a
Chymuned i gynnal cyfarfodydd o bell wrth fynd ymlaen. Dywedodd SM bod yr
awdurdod wedi profi dulliau o gynnal trefniadau gweithio o bell ar lwyfannau
amgen. Roedd nodyn briffio wedi cael ei ddosbarthu i glercod i gynnig
arweiniad. Roedd canllawiau wedi’u darparu hefyd gan Un Llais Cymru.
Datganodd y SM y
dylai aelodau sy’n dymuno mynychu unrhyw gyfarfodydd ei hysbysu ef. Byddai’n
ymgynghori â’r clerc perthnasol wedyn i wneud trefniadau i fynychu yn bersonol
neu o bell. Roedd aelodau’n falch o glywed y byddai’n bosibl mynychu
cyfarfodydd o bell. Amlygwyd y byddai cynnal cyfarfodydd o bell o bosibl yn
annog mwy o ddiddordeb gan y cyhoedd mewn cyfarfodydd cynghorau Dinas, Tref a
Chymuned.
Diolchodd y
Cadeirydd i’r SM am ei gefnogaeth i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ac anogodd
aelodau i gysylltu â’r SM yn uniongyrchol am gefnogaeth wrth fynychu
cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD
- nodi’r pwyntiau y soniwyd amdanynt uchod.