Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (Eitem 4)
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020 (copi ynghlwm).
Penderfyniad:
Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad
PENDERFYNWYD y
dylid, yn amodol ar un pwynt o gywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 22 Medi 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.
Cofnodion:
Cyflwynwyd
cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020.
Cywirdeb – Tudalen 13, Eitem 9 Adroddiad Cyllid – Gofynnodd y
Cynghorydd Mark Young i’w sylw am y £500 a roddwyd i weithwyr gofal gael ei
gynnwys yn y cofnodion. Roedd wedi
llongyfarch Llywodraeth Cymru ar roi’r taliad fel rhodd i staff gofal
ymroddedig, a dywedodd ei bod yn drueni fod Trysorlys y DU wedi codi treth ar y
rhodd.
PENDERFYNWYD,
yn amodol ar y pwynt cywirdeb uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 22 Medi 2020 a chadarnhau eu bod yn gofnod cywir.