Mater - cyfarfodydd
Materion Brys
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet (Eitem 3)
MATERION BRYS
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Penderfyniad:
Rhoddodd y Prif
Weithredwr ddiweddariad yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y diwrnod cynt y
bydd Cymru i gyd yn cael ei rhoi dan gyfyngiadau cyfnod clo byr mewn ymdrech i
geisio ailafael mewn rheolaeth ar y coronafeirws.
Cofnodion:
Ar gais yr
Arweinydd, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Prif Weithredwr yn dilyn
cyhoeddiad Llywodraeth Cymru (LlC) y byddai’n cyflwyno cyfnod torri’r cylch
ledled Cymru i helpu rheoli’r coronafeirws.
Mewn trafodaethau â LlC, ceisiwyd mesurau penodol i warchod economi a
dinasyddion Sir Ddinbych, gan gynnwys pecynnau cymorth i fusnesau ynghyd â
gwybodaeth a chanllawiau clir, y trafodwyd rhywfaint ohonynt yng nghyhoeddiad
LlC. Darparwyd sicrwydd fod swyddogion
yn gweithio’n galed i sicrhau y gellid cau gwasanaethau’n ddiogel a sefydlu
dulliau i gefnogi busnesau a chleientiaid diamddiffyn, yn ogystal â sicrhau bod
cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib ar gael drwy sianeli cyfathrebu a chyfryngau
cymdeithasol. Bydd gwybodaeth bellach yn
cael ei darparu eto yn y dyddiau nesaf.