Mater - cyfarfodydd
UPDATE ON THE WORK OF THE LICENSING SECTION
Cyfarfod: 05/03/2019 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 9)
9 Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR WAITH YR ADAIN DRWYDDEDU PDF 227 KB
I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi'n amgaeedig), yn
diweddaru aelodau ar waith yr Adain Drwyddedu yn ystod 2018.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD yn ddarostyngedig i sylwadau aelodau, i nodi cynnwys
yr adroddiad.
Cofnodion:
{0><}0{>Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad
(wedi ei rannu yn flaenorol) yn diweddaru'r aelodau ar waith Yr Adain Drwyddedu
yn ystod 2018 a oedd yn canolbwyntio ar faterion rheolaethol a gweithredol. <0}
{0><}0{>Roedd yr adroddiad yn darparu data
ystadegol ar nifer y trwyddedau a gyhoeddwyd, cwynion a’r ceisiadau gwasanaeth a dderbyniwyd yn
cwmpasu’r prif swyddogaethau – Alcohol ac Adloniant; Hacni a Thrwyddedu Hurio
Preifat; Hapchwarae, Lotrïau a Gemau; Masnachu Ar Y Stryd; Casgliadau
Elusennol, Metel Sgrap ynghyd â materion ategol eraill gan gynnwys recordio data,
perfformiad a chyfathrebu.<0} {0><}0{>Roedd materion Rheoli yn cynnwys
cyfeiriad at bolisïau, ffioedd, cwynion am y gwasanaeth ynghyd ag
ystyriaeth i lwyth
gwaith y dyfodol. <0} {0><}0{>Ymhelaethodd y Swyddogion ar nifer o agweddau o'r
adroddiad gan egluro rhai materion penodol mewn ymateb i gwestiynau
aelodau. <0}
{0><}0{>Yn ystod y drafodaeth cytunodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i adolygu’r protocol ar ymgysylltu ag aelodau wardiau lleol lle fo materion wedi eu nodi yn eu hardaloedd penodol er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn berthnasol ac yn briodol i bwrpasau trwyddedu.<0}{0><}0{> Mewn ymateb i gwestiwn am sgoriau hylendid bwyd cadarnhaodd swyddogion fod archwiliadau yn cael eu cynnal bob deunaw mis ond pan fo sgôr isel, byddai’r Cyngor yn ail-archwilio ar gais o fewn tri mis am ffi. <0} {0><}0{>Manylwyd ymhellach gan y Swyddogion hefyd ar y cydweithio oedd yn digwydd ar draws yr ardaloedd gwasanaethu yn ystod archwiliadau mannau trwyddedig. <0}
{0><}0{>Talwyd teyrnged gan yr aelodau i'r gwaith caled a wnaed gan y tîm Trwyddedu er mwyn codi safonau a sicrhau arferion da ar draws y nifer o swyddogaethau trwyddedu. Roeddynt yn falch o nodi fod camau wedi eu cymryd i ddogfennu'r gwaith hwn a sicrhau monitro prosesau yn y dyfodol a fyddai’n arwain at well tryloywder<0} {0><}0{>Hoffai’r Pwyllgor gyfleu eu diolchiadau i’r Tîm Trwyddedu a gofynnwyd i’r gwerthfawrogiad ... view the full Cofnodion text for item 9