Mater - cyfarfodydd
PROPOSED PRIVATE HIRE PLATE EXEMPTION POLICY
Cyfarfod: 05/03/2019 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)
6 POLISI EITHRIO CERBYD HURIO PREIFAT ARFAETHEDIG PDF 210 KB
I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn
cyflwyno Polisi Eithrio Cerbyd Hurio Preifat Arfaethedig, i'w ystyried a'i
gymeradwyo ar gyfer ymgynghori ffurfiol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) cefnogi a chymeradwyo'r Polisi Eithrio Plât Cerbydau Hurio Preifat, fel y
nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol, a
(b) yn dilyn ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau i’r
Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi arfaethedig, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn
dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Eithrio Plât Cerbydau Hurio Preifat
o 1 Mehefin 2019 ymlaen.
Cofnodion:
{0><}0{>Cyflwynwyd adroddiad gan y
Swyddog Trwyddedu (wedi ei rannu yn flaenorol) yn manylu am y Polisi Eithrio
Platiau Hurio Preifat arfaethedig i’w ystyried a'i gymeradwyo i ymgynghoriad
ffurfiol. <0}
{0><}0{>Adroddodd swyddogion am
gyfreithlonrwydd materion yn ymwneud ag arddangos platiau hurio preifat ynghyd â disgresiwn y Cyngor i roi
caniatâd arbennig rhag arddangos platiau trwyddedu.<0} {0><}0{>Byddai’r polisi arfaethedig yn cynnig arweiniad i
ymgeiswyr posib ar yr isafbwynt safonau o ran y math o gerbydau y byddai’r
cyngor yn ystyried ar gyfer eithriad o’r gofynion i arddangos platiau trwydded
ac yn caniatáu’r Cyngor i wneud penderfyniadau tryloyw ar eithriadau addas. <0}
{0><}0{>Cefnogwyd y polisi gan yr
aelodau fel ffordd o gynnig cysondeb wrth weithredu gyda cheisiadau am eithriad
platiau ac i sicrhau nad oedd oedi diangen yn y broses o ymgeisio. <0} {0><}0{>Yn dilyn hyn-<0}
{0><}0{>PENDERFYNWYD fod- <0}
{0><}0{>(a)<0} {0><}0{>y Polisi Eithrio Platiau Hurio Preifat arfaethedig, fel y nodir yn Atodlen
A i’r adroddiad i’w gefnogi a'i gymeradwyo i ymgynghoriad ffurfiol, ac <0}
{0><}0{>(b)<0} {0><}0{>yn dilyn ymgynghoriad swyddogion i adrodd yn ôl am unrhyw
wrthwynebiad i’r Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ystyried a chymeradwyo'r polisi
arfaethedig, neu os na fydd ymatebion wedi eu derbyn, cymeradwyo'r Polisi Eithrio Platiau Hurio Preifat i gael
ei fabwysiadu o'r 1 Mehefin 2019.