Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet (Eitem 8)
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - APP 1, Eitem 8 PDF 30 KB
- FINANCE REPORT - APP 2, Eitem 8 PDF 20 KB
- FINANCE REPORT - APP 3, Eitem 8 PDF 52 KB
- Webcast for ADRODDIAD CYLLID
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn -
·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189.252m yn 2017/18)
·
roedd
amcanestyniad o orwariant o £0.964m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol
·
rhoddwyd
manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6m a gytunwyd arnynt
gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y
byddai pob effeithlonrwydd/ arbedion yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw
eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen
·
amlygwyd
risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a
·
darparwyd
y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf
Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).
Codwyd y materion canlynol wrth drafod –
·
Roedd cyllid ar gyfer y codiad
ym mhensiynau athrawon yn cael ei ystyried fel rhan o baratoadau’r gyllideb ar
gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd
trafodaethau yn mynd rhagddynt rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru mewn perthynas
â hyn, a tra y disgwylid y byddai’r goblygiadau o ran cost yn cael eu hariannu,
ni chafwyd cadarnhad o hynny hyd yma.
·
Holodd y Cynghorydd Arwel
Roberts ynghylch y potensial i glystyrau ysgolion gael mynediad at fudd-daliadau
cyllid cymunedol a godai o ddatblygiadau ffermydd gwynt, ac anogodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bob clwstwr ysgolion a chyrff eraill i geisio
am gyllid ychwanegol a fyddai o fudd i’w cymunedau. Cadarnhaodd y Cynghorydd
Richard Mainon fod y Cyngor mewn lle da i gynorthwyo a chefnogi unrhyw grwpiau
a ddeuai ymlaen er mwyn rhoi achos da at ei gilydd a chynyddu’r siawns o
lwyddiant wrth geisio mynediad at y cyllid hwnnw.
·
Roedd cyfanswm cyllideb o
£23.813m ar gyfer Ysgol Ffydd newydd Y Rhyl (gwariant o £7.005m hyd yma, ac
amcan gwariant o £8.122m yn 2018/19 a £8.686m yn 2019/20). Roedd yr arian yn
cael ei dalu fesul cyfran trwy gydol cyfnod y contract yn ddibynnol ar ba bryd
y cyflawnwyd camau penodol yn y gwaith adeiladu.
·
Nid oedd unrhyw effaith ariannol
yn codi o benderfyniad y Gweinidog Addysg mewn perthynas ag Ysgol Llanbedr gan
fod y Cyngor wedi parhau i ariannu’r ysgol tra’n disgwyl y penderfyniad ac y
byddai’n parhau i wneud hynny – roedd penderfyniad y Cyngor yn seiliedig ar
leoedd gwag yn hytrach na materion yn ymwneud â chyllid. Bu newid i gòd trefniadaeth yr
ysgol, gwelwyd cynnydd yn nifer y disgyblion, ac ystyrid fod cynnig addysgol yr
ardal yn briodol.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.
Ar y pwynt hwn (11.40 am) cymerodd yr aelodau egwyl am
luniaeth.