Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet (Eitem 4)
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 20 Tachwedd 2018 (copi’n amgaeedig).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir.
Cofnodion:
Cyflwynwyd
cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2018 i’w cymeradwyo.
Materion yn codi – Tudalen 8, Cofnodion Eitem 4 – Cabinet 30
Hydref 2018 (Darpariaeth Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr) – Roedd y Cynghorydd
Peter Scott yn werthfawrogol o’r arolwg ofalus o’r holl wybodaeth a dderbyniwyd
gan breswylwyr, y gymuned ehangach a’r sector fusnes mewn ymateb i’r
ymgynghoriad rhag-gynllunio ynglŷn â’r cynigion, ac fe edrychai ymlaen at
gyflwyniad yr adroddiad yng Ngwanwyn 2019. Roedd hefyd yn falch fod y Cabinet
yn gwerthfawrogi’r dyfnder teimlad a’r pryderon a gyflwynwyd.
PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir.