Mater - cyfarfodydd
Materion Brys
Cyfarfod: 20/08/2018 - Is-Bwyllgor Trwyddedu (Eitem 3)
3 DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO – THE GALLEY, 118 VALE ROAD, Y RHYL PDF 287 KB
Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a wnaed yn unol ag Adran 51 o
Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran The Galley, 118 Vale Road, Y Rhyl (amlinelliad o'r
cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
10.00 a.m.
Dogfennau ychwanegol:
- THE GALLEY REPORT - APP A
- THE GALLEY REPORT - APP B
- THE GALLEY REPORT - APP C
- THE GALLEY REPORT - LOCATION PLAN
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) diddymu
Goruchwyliwr Safle Dynodedig, a
(b) gwahardd
Trwydded Safle am gyfnod o dri mis neu gyfnod y mae Heddlu Gogledd Cymru yn
dynodi i’r awdurdod trwyddedu ei bod yn fodlon bod rheolaeth y safle yn glynu wrth
amcanion trwyddedu ac yn barod i gael cysylltiad ystyrlon gyda Heddlu Gogledd
Cymru.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a oedd wedi’i gylchredeg cyn hynny) am
–
(i)
cais a gafwyd gan Heddlu Gogledd Cymru am Adolygiad o
Drwydded Eiddo a oedd yn cael ei dal gan Mrs. Vanessa Michelle Steele mewn
perthynas â The Galley, 118 Vale Road, Y Rhyl (roedd copi o’r Drwydded Eiddo
bresennol a’r atodlen weithredu gyfredol wedi’u hatodi yn Atodiad A i’r
adroddiad);
(ii) y sail dros adolygu mewn
perthynas â’r Amcanion Trwyddedu ar gyfer Atal Troseddu ac Anhrefn a Diogelwch
y Cyhoedd sef –
o ganlyniad i’r pryderon sydd gan
Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â rheoli’r eiddo trwyddedig. Mae’r Deilydd Trwydded Eiddo (sydd hefyd yn
Oruchwylydd Eiddo Dynodedig) wedi methu ag ymgysylltu â’r Heddlu i drafod y
pryderon hyn, er bod tystiolaeth glir o ddiffyg dealltwriaeth o’r Amcanion
Trwyddedu sydd wedi’u diffinio o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
manylion llawn y cais am
Adolygiad sydd wedi’u hatodi yn Atodiad B i’r adroddiad;
(iii) cyd-fenter a gychwynnwyd
gan Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor i ymweld â safleoedd trwyddedig yn ardal y
Rhyl i dynnu sylw at y gofynion i safleoedd trwyddedig beidio â gwasanaethu
pobl a oedd yn feddw a hefyd i feithrin cefnogaeth i’r cynllun Gwarchod
Tafarndai lleol (roedd y cynllun Gwarchod Tafarndai yn gynllun gwirfoddol
cenedlaethol a sefydlwyd er mwyn sicrhau amgylchedd diogel o dan arweiniad
cyfrifol ar gyfer yfed cymdeithasol ar safleoedd trwyddedig);
(iv) ymweliad â The Galley a
gafwyd ar 27 Mai 2018 yn rhan o’r fenter honno pan oedd swyddogion wedi gorfod
dioddef iaith fras ac ymddygiad gwrthdrawiadol ac ymosodol gan aelod meddw o
blith rheolwyr y safle a barn swyddogion bod y tîm rheoli yn ddirmygus i ryw
raddau o’r cynllun Gwarchod Tafarndai ac y byddent yn gwasanaethu pwy bynnag a
ddymunent;
(v) llythyr a anfonwyd at y
Deilydd Trwydded Eiddo yn ei gwahodd i ddod i gyfarfod i drafod pryderon yr
Heddlu a chytuno ar ffordd gefnogol ymlaen a’i hymateb i’r perwyl y byddai’n
hysbysu’r Heddlu a’r Awdurdod Lleol pe byddai’n dymuno ymaelodi â’r cynllun
Gwarchod Tafarndai yn y dyfodol;
(vi) bod y Deilydd Trwydded
Eiddo hefyd wedi methu â dod i gyfarfod pellach a drefnwyd gan yr Heddlu i
drafod pryderon a chytuno ar gyd-ddealltwriaeth o’r gofyniad cyfreithiol i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ymhellach;
(vii)
bod y Deilydd Trwydded Eiddo
mewn ymateb i’r cais am Adolygiad wedi awgrymu ei bod yn barod i ddod i unrhyw
gyfarfodydd o’r cynllun Gwarchod Tafarndai lleol (mae copi o’r ymateb wedi’i atodi yn Atodiad C i’r
adroddiad);
(viii) lluniau a ddarparwyd gan
yr Heddlu a dynnwyd gan gamera corff yn ystod ymweliad trwyddedu dilynol ar 1
Mehefin 2018 a oedd wedi’u cyflwyno fel tystiolaeth ac wedi’u gwylio gan
aelodau cyn y gwrandawiad – roedd y lluniau’n dangos unigolyn ar y safle a oedd
wedi’i wahardd o dan y cynllun Gwarchod Tafarndai;
(ix) yr angen i ystyried y
cais am Adolygiad gan roi sylw dyladwy i’r Canllawiau a roddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a Datganiad Polisi Trwyddedu y Cyngor;
(x) cyfeiriad at brotocol
gorfodi ar y cyd Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor a’r broses gorfodi dri cham
gyda mecanwaith uwchgyfeirio – bod methiant y Deilydd Trwydded Eiddo i
ymgysylltu â’r Heddlu wedi arwain at uwchgyfeirio’r mater yn syth i gam tri,
(xi) opsiynau sydd ar gael i’r
pwyllgor wrth benderfynu ar y cais am Adolygiad.
Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad ac amlinellu ffeithiau’r achos. Cafwyd bod rhywfaint o ddryswch ymhlith rheolwyr y safle ynghylch pwy oedd y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig ac eglurwyd mai Mrs. Vanessa Steele oedd y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig, nid Ms. Kayleigh Mannion. Roedd Mrs. Steele ... view the full Cofnodion text for item 3