Mater - cyfarfodydd
UPDATE ON THE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE CONVICTION POLICY
Cyfarfod: 13/06/2018 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 9)
9 DIWEDDARIAD AR BOLISI EUOGFARNAU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT PDF 193 KB
Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn rhoi
diweddariad i’r aelodau ar bolisi Euogfarnau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio
Preifat.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod aelodau yn -
(a) Awdurdodi swyddogion i barhau i asesu’r effaith ar fabwysiadu Polisi
Perthnasedd Euogfarnau'r Sefydliad Trwyddedu ochr yn ochr ag adolygiad
Llywodraeth Cymru ac adrodd yn ôl i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.
(b) Rhoi cyfarwyddyd i swyddogion adolygu’r Polisi Euogfarnau presennol ac
adrodd yn ôl yn y cyfarfod Pwyllgor nesaf.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a gylchredwyd eisoes) yn diweddaru’r aelodau am
yr adolygiad o’r Polisi Euogfarnau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.
Atgoffwyd
yr Aelodau am y gwaith a wnaed gan y Sefydliad Trwyddedu (IOL) i ddatblygu
polisi euogfarnau cenedlaethol a’r canllawiau terfynol am bennu addasrwydd
ymgeiswyr a’r rhai sy’n meddu ar drwydded a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018. Y bwriad oedd i Awdurdodau Lleol fabwysiadu’r
ddogfen er mwyn safoni’r gofynion, fodd bynnag, roedd ymholiadau yng Ngogledd
Cymru yn awgrymu mai dim ond Ynys Môn oedd wedi dangos diddordeb mewn
mabwysiadu’r ddogfen. Oherwydd hynny,
roedd risg mai Sir Ddinbych fyddai’r unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru
fyddai’n mabwysiadu’r ddogfen a allai arwain at ymgeiswyr, nad oeddent yn
bodloni gofynion y polisi, yn cael trwyddedau gan awdurdodau cyfagos a
gweithredu yn Sir Ddinbych dan rai amgylchiadau. Roedd Panel Technegol Trwyddedu (Cymru) hefyd
wedi cytuno bod angen craffu ar y polisi ymhellach cyn y gallent gefnogi ei fod
yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru. Yn
ogystal â hyn, byddai Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu papur gwyn yn nodi cynigion
ar gyfer trwyddedu yng Nghymru yr oeddent yn gobeithio ei wneud yn
ddeddfwriaeth cyn diwedd tymor cyfredol y Cynulliad. Roeddent wedi awgrymu bod polisi IOL neu
ddogfen debyg yn cael ei gynnwys mewn unrhyw ddeddfwriaeth newydd ar gyfer
Cymru.
Mewn
ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y swyddogion bod Sir Ddinbych yn aelod o Banel
Technegol Trwyddedu (Cymru). Roedd
cynrychiolwyr ar IOL yn cynnwys swyddogion mewn swyddi uwch ac roedd Cymru yn
cael ei chynrychioli fel rhan o’r fforwm hwnnw.
Oherwydd y ffrydiau gwaith gwahanol a’r posibilrwydd o amrywiadau, roedd
y pwyllgor o blaid disgwyl am ganlyniad papur gwyn Llywodraeth Cymru ac
archwiliad Panel Technegol Trwyddedu o’r ddogfen bolisi. Yn y cyfamser, cytunwyd bod Polisi Euogfarnau
cyfredol y Cyngor yn cael ei adolygu er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw
feysydd amwys yn cael eu dileu neu eu hegluro.
PENDERFYNWYD
bod
aelodau yn -
(a) awdurdodi
swyddogion i barhau i asesu’r effaith ar fabwysiadau Polisi Perthnasedd
Euogfarnau Trwyddedu ar y cyd ag adolygiad Llywodraeth Cymru ac adrodd yn ôl i
gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol.
(b) rhoi
cyfarwyddiadau i swyddogion i adolygu’r Polisi Euogfarnau cyfredol ac adrodd yn
ôl i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.