Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

FORMER NORTH WALES HOSPITAL DENBIGH - UPDATE ON COMPULSORY PURCHASE ORDER (CPO) PROCEDURE

Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (Eitem 12)

12 CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH – GWEITHDREFN GORCHYMYN PRYNU GORFODOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn diweddaru’r Cabinet ar weithdrefn Gorchymyn Prynu Gorfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi’r broses a nodir yn yr adroddiad ar gyfer penderfynu ar y dewis datblygu a’r datblygwr a ffefrir ar gyfer y safle ar ôl i broses y Gorchymyn Prynu Gorfodol ddod i ben.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad cyfrinachol yn diweddaru’r Cabinet ar y weithdrefn Gorchymyn Prynu Gorfodol yn ymwneud â chyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych a cheisio cefnogaeth aelodau i’r broses o benderfynu beth yw'r dewis gorau o ran datblygu a’r datblygwr ar gyfer y safle fel yr amlinellir o fewn yr adroddiad. Nodwyd yr ymgynghorwyd â swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru a’u bod yn fodlon gyda'r broses arfaethedig.

 

Darparodd swyddogion ychydig o wybodaeth gefndir yn arwain at y sefyllfa bresennol a nododd aelodau’r amserlen ar gyfer cwblhau’r Gorchymyn Prynu Gorfodol a chyflawni’r prosiect. Roedd y fersiwn derfynol o fanyleb y tendr wedi ei gylchredeg yn y cyfarfod a phwysleisiodd swyddogion y prif newidiadau o’r drafft blaenorol. Trafododd aelodau yr argymhellion, fel y nodir o fewn yr adroddiad, gyda swyddogion gan gynnwys manyleb y tendr a’r weithdrefn asesu a gwerthuso er mwyn penderfynu ar y dewis gorau ar gyfer y safle yn ogystal â rhai materion cyfreithiol a risgiau o gylch y broses gyfan a goblygiadau o ran cost yn y dyfodol.  Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi’r broses a nodir yn yr adroddiad ar gyfer penderfynu ar y dewis o ran  datblygu a’r datblygwr a ffefrir ar gyfer y safle ar ôl i broses y Gorchymyn Prynu Gorfodol ddod i ben.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00 pm.