Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

HOUSING RENT SETTING & HOUSING REVENUE AND CAPITAL BUDGETS 2018/19

Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (Eitem 7)

7 GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2018/19 pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo'r Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Cyfalaf ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

(b)       cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd fis Ebrill 2015 i rent wythnosol cyfartalog o £87.63 o ddydd Llun 2 Ebrill 2018 ymlaen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynnydd rhent blynyddol i dai yn Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes Stoc Tai.

 

Cafodd aelodau eu harwain drwy ffigyrau’r gyllideb gan y Cynghorydd Thompson-Hill a hefyd drwy'r rhagdybiaethau lefelau incwm a gyfrifwyd drwy ystyried Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru ar gyfer rhenti tai cymdeithasol a mecanwaith ar gyfer cynyddu rhenti.  Roedd yr adolygiad blynyddol o Gynllun Busnes y Stoc Dai yn dangos ei fod yn parhau’n gadarn ac yn hyfyw yn ariannol gydag adnoddau digonol i gefnogi rheoli a goruchwylio’r gwasanaeth tai ac anghenion y stoc o ran buddsoddiad.

 

Roedd y Cabinet yn falch o nodi'r raddfa uchel o ran bodlonrwydd gan denantiaid a bod Sir Ddinbych yn cymharu’n ffafriol gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eraill mewn perthynas â rhenti tai.  Nodwyd hefyd fod gan Sir Ddinbych ôl- ddyledion rhenti tai sy’n gyson isel mewn cymhariaeth â Chymru a'r DU. Ond cydnabuwyd fod Credyd Cynhwysol yn risg oedd yn cael ei reoli yn dda o fewn Sir Ddinbych gyda niferoedd isel o ôl-ddyledion rhent ar hyn o bryd. Roedd Aelodau hefyd yn falch o nodi fod rhaglen o 170 o gartrefi newydd wedi eu hymgorffori o fewn y Cynllun Busnes Stoc Tai ac atebodd yr Aelod Arweiniol - Tai Cymunedol gwestiynau'n ymwneud â chynnydd gyda'r rhaglen benodol honno a hefyd cadarnhaodd fod ffynonellau cynhesu gwahanol i nwy hylifol mewn ardaloedd gwledig yn cael eu harchwilio.  Ni ymdriniwyd â modurdai yn yr adroddiad gan nad ydynt yn ddarostyngedig i Bolisi Rhent Llywodraeth Cymru a byddai'r ffioedd a'r defnydd o safleoedd modurdai yn cael eu hadolygu gan y Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai.  Er hynny mynegodd y Cynghorydd Bobby Feeley bryder yn ymwneud â’r amser y mae wedi ei gymryd i gwblhau’r adolygiad o safleoedd modurdai a chytunwyd i dderbyn adroddiad yn ôl ar ymagwedd y Cyngor o ran modurdai yn dilyn cwblhau'r adolygiad mewn tua chwe mis.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad), a

 

 (b)      cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd fis Ebrill 2015 i rent wythnosol cyfartalog o £87.63 o ddydd Llun 2 Ebrill 2018 ymlaen.