Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PROPOSAL TO ESTABLISH A STRATEGIC PLANNING GROUP

Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (Eitem 5)

5 CYNNIG I SEFYDLU GRŴP CYNLLUNIO STRATEGOL pdf eicon PDF 303 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi’n amgaeedig) yn amlinellu’r cynigion ar gyfer sefydlu Grŵp Cynllunio Strategol i arwain ar ddatblygiad disodliad Cynllun Datblygu Lleol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo sefydlu’r grŵp, y cylch gorchwyl ac aelodaeth y Grŵp Cynllunio Strategol fel y nodir yn Atodiad 1, yn amodol ar gynnwys y canlynol yn y cylch gorchwyl (1) cyfeiriad cliriach at y ffaith na fydd cyfarfodydd y grŵp yn agored i bob aelod etholedig eu mynychu, a (2) eglurhad pellach ynghylch y broses ar gyfer paratoi’r Adroddiad Monitro Blynyddol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad yn amlinellu'r cynigion i ddisodli’r Grŵp Llywio Cynllun Datblygu Lleol gyda Grŵp Cynllunio Strategol gyda mwy o ffocws i arwain ar ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

Byddai’r Grŵp newydd yn darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd corfforaethol i symud y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn ei flaen i’r broses fabwysiadu ffurfiol ac i ganolbwyntio ar weithredu strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol. Roedd y cylch gorchwyl drafft yn amlinellu rôl a diben y Grŵp a’i aelodau ynghlwm â’r adroddiad hwn.

 

Nododd y Cabinet y cynigion ar gyfer Grŵp llai, fyddai â mwy o ffocws, a cheisiodd sicrwydd y byddai cyfleoedd yn cael eu darparu i’r holl aelodau gael mewnbwn yn y broses newydd. Cadarnhaodd swyddogion fod y cylch gorchwyl drafft yn darparu ar gyfer un cynrychiolydd a dirprwy gynrychiolydd o bob un o'r Grwpiau Ardal Aelodau a chyfrifoldeb yr aelod hwnnw fyddai adrodd yn ôl a darparu mewnbwn o’u Grwpiau Ardal Aelod unigol a grwpiau gwleidyddol. Hefyd byddai'r holl waith papur perthnasol yn ymwneud â chyfarfodydd y Grŵp ar gael i’r holl gynghorwyr a byddai gweithdai/sesiynau briffio yn cael eu cynnal bob chwe mis i sicrhau cyfranogiad parhaus yr holl aelodau. Byddai adroddiadau diweddaru yn cael eu cynnwys ar raglenni’r Grŵp Ardal Aelodau yn ôl yr angen a byddai cyfnodau allweddol o ran datblygiad yn cael eu hadrodd i’r Cabinet a/neu’r Cyngor. Wrth ymateb i gwestiynau atebodd yr Aelod Arweiniol a’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·        cadarnhawyd na fyddai cyfarfodydd y Grŵp newydd ar agor i’r holl aelodau eu mynychu a chytunwyd i wneud hyn yn fwy eglur yn y cylch gorchwyl

·        pwysleisiwyd na fyddai’r cyfarfodydd ar agor i’r cyhoedd

·        cydnabuwyd gwaith caled y Grŵp Llywio CDLl a chadarnhawyd y byddai’r rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd diwygiedig yn sail i'r CDLl newydd

·        eglurwyd y gofyniad statudol i ddarparu Adroddiad Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cymru a rôl y Grŵp newydd mewn goruchwylio paratoi'r adroddiad hwnnw; cytunwyd i roi eglurhad pellach ar y broses honno yn y cylch gorchwyl

·        ailategwyd y bwriad i sicrhau un cynrychiolydd ac un dirprwy gynrychiolydd o bob Grŵp Ardal Aelodau gan gofio ei fod yn Grŵp newydd a oedd angen llai o aelodau na'r Grŵp Llywio blaenorol.

 

Pwysleisiodd y Cabinet ei bod yn bwysig fod  cynrychiolwyr y Grwpiau Ardal Aelodau yn ymgysylltu’n rhagweithiol gyda'u Grŵp Ardal Aelodau perthnasol i roi adborth a darparu mewnbwn pellach i'r broses.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo sefydlu’r grŵp, y Cylch Gorchwyl drafft ac aelodaeth y Grŵp Cynllunio Strategol fel y nodir yn Atodiad 1, yn amodol ar gynnwys y canlynol yn y cylch gorchwyl (1) cyfeiriad cliriach at y ffaith na fyddai cyfarfodydd y grŵp yn agored i bob aelod etholedig eu mynychu, ac (2) eglurhad pellach ynghylch y broses ar gyfer paratoi’r Adroddiad Monitro Blynyddol.