Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

LOCAL BUS SERVICE CONTRACT

Cyfarfod: 12/12/2017 - Cabinet (Eitem 11)

11 CONTRACT GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contractau ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, ac Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Chludiant Cynaliadwy, i ddyfarnu contractau hyd at y terfyn ac o fewn y gyllideb sydd ar gael yn unol â’r cynigion yn yr atodiad i’r adroddiad. Mae’n bosibl y bydd angen gwneud mân newidiadau i fanylion y cynllun yn dilyn ymgysylltu’n ffurfiol gyda’r contractwyr ac wrth i’r sefyllfa ddod yn gliriach.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyrannu contractau ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau i’r cynigwyr a oedd yn cynnig y fantais ariannol fwyaf.

 

Roedd swyddogion wedi tendro ystod o opsiynau ac roedd cyflenwyr yn gallu cynnig am gontractau unigol ar gyfer dau neu fwy o gontractau ynghyd.  Roedd nifer o ardaloedd heb wasanaethau ond roedd angen cymeradwyaeth gan y Cabinet er mwyn i’r swyddogion allu dyfarnu contractau’n ffurfiol yn unol â'r amserlenni perthnasol.  Os nad oedd darparwyr yn gallu derbyn yr hyn a gynigiwyd iddynt ar y cam dyfarnu ffurfiol, byddai newidiadau dilynol yn cael eu rheoli gan ddefnyddio'r arian a oedd ar gael yn y gyllideb.

 

Yn ystod trafodaeth faith, bu'r swyddogion yn ymateb i gwestiynau ar ystod o faterion gan gynnwys y broses werthuso a sicrhau'r gwerth gorau am arian, profi bod ymchwil digonol wedi'i wneud, tocynnau a phrisiau, a gweithrediad penodol gwasanaethau penodol mewn gwahanol ardaloedd yn y sir ynghyd ag ymarferoldeb llwybrau a gwasanaethau penodol.  Trafodwyd rhywfaint ynglŷn â’r potensial am fysiau trydan, a oedd yn dal i gael ei ystyried, a chan fod amser yn brin i wneud cais am gyllid mewn perthynas â hynny, cytunwyd y dylai’r Grŵp Buddsoddi Strategol ystyried y sefyllfa ddiweddaraf ymhellach y prynhawn hwnnw.  O ran y cyllid a oedd ar gael, dywedodd y swyddogion bod y cynigion yn seiliedig ar gyllidebau a rhagdybiaethau cyfredol ac fe fynegodd y Cabinet bryder bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod yn hwyr bod cyllid ar gael a chytunwyd y byddai'r mater yn cael ei drafod gyda nhw'n uniongyrchol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, ac Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Chludiant Cynaliadwy, i ddyfarnu contractau hyd at y terfyn ac o fewn y gyllideb sydd ar gael yn unol â’r cynigion yn yr atodiad i’r adroddiad.  Mae’n bosibl y bydd angen gwneud mân newidiadau i fanylion y cynllun yn dilyn ymgysylltu’n ffurfiol gyda’r contractwyr ac wrth i’r sefyllfa ddod yn fwy eglur.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.20 p.m.