Mater - cyfarfodydd
MANAGED SERVICE FOR THE PROVISION OF AGENCY WORKERS
Cyfarfod: 12/12/2017 - Cabinet (Eitem 8)
8 GWASANAETH A REOLIR AR GYFER DARPARU GWEITHWYR ASIANTAETH PDF 302 KB
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i gychwyn caffael a llunio contract i benodi asiantaeth i ddarparu staff
dros dro i’r Cyngor eu defnyddio.
Dogfennau ychwanegol:
- AGENCY WORKERS - APPENDIX WBIA, Eitem 8 PDF 80 KB
- Webcast for GWASANAETH A REOLIR AR GYFER DARPARU GWEITHWYR ASIANTAETH
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo –
(a) dechrau’r broses gaffael yn defnyddio Fframwaith ESPO MSTAR2, Rhif 653F;
(b) bod Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i arwain a
rheoli’r broses gaffael;
(c) bod y pwyllgor archwilio priodol yn derbyn adroddiad gan y swyddogion
perthnasol ym mis Ionawr 2018 o ran y broses gaffael a’r dewisiadau amgen sydd
ar gael i’r Cyngor yn seiliedig ar y gwerth gorau, a
(d) bod y Cabinet yn derbyn adroddiad i ddyfarnu’r contract i’r cynigiwr sy’n
cynnig y budd economaidd mwyaf ym mis Chwefror 2018.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet
i ddechrau caffael cydweithredol gyda Chyngor Sir y Fflint a llunio contract i
benodi asiantaeth i gyflenwi staff dros dro i’r Cyngor eu defnyddio.
Daeth
cytundeb cyfredol y Cyngor i gyflenwi staff asiantaeth i ben fis Chwefror
2018. Gan fod angen parhaus am staff
asiantaeth ac o ystyried y gofynion deddfwriaethol, cynigiwyd y dylid cynnal
proses dendro gystadleuol gan ddefnyddio'r fframwaith MSTAR2 (Gwasanaethau a
Reolir ar gyfer Staff Asiantaeth Dros Dro). Byddai’r contract yn para tair
blynedd, gyda dewis i roi estyniad o flwyddyn arall.
Yn
ystod y drafodaeth a ddilynodd, ceisiodd y Cabinet eglurder ynglŷn ag
elfen gwerth am arian y contract arfaethedig, manylion am y contract, ac a oedd
dulliau darpariaeth eraill wedi'u hystyried. Nododd yr aelodau bod arbedion
o dros £200,000 y flwyddyn wedi’u gwneud gan ddefnyddio’r fframwaith presennol
ac er y cydnabyddid y byddai’r contract newydd arfaethedig hefyd yn debygol o
gael effaith gadarnhaol ar y Cyngor yn ariannol, roedd pryder ynglŷn â’r
diffyg manylder a ddarparwyd yn yr adroddiad er mwyn rhoi'r sicrwydd ar werth
am arian, yn enwedig o gofio y byddai gwariant arfaethedig dros £4m dros bedair
blynedd o dan y contract newydd, a chredai'r Cabinet y byddai'r mater yn elwa
o’i archwilio ymhellach. Trafodwyd
yr amserlenni ar gyfer y broses gaffael a bod y cytundeb cyfredol yn dod i ben
ac, o ystyried bod yr amser yn brin, cytunwyd y dylid dechrau'r broses gaffael
ond y dylid gofyn i'r pwyllgor archwilio priodol ystyried caffael cydweithredol
ac opsiynau eraill ar sail y gwerth gorau cyn gynted â phosib, gyda'r bwriad o
gyflwyno adroddiad yn ôl i'r Cabinet i ystyried a ddylid parhau â'r broses neu
dynnu yn ôl i ddewis opsiwn a fyddai o fwy o fantais.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn cymeradwyo –
(a) dechrau’r broses
gaffael gan ddefnyddio Fframwaith ESPO MSTAR2 Rhif 653F;
(b) bod Cyngor Sir
Ddinbych yn cydweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i arwain a rheoli’r broses
gaffael;
(c) bod y pwyllgor
archwilio priodol yn derbyn adroddiad gan y swyddogion perthnasol ym mis Ionawr
2018 ar y broses gaffael a’r dewisiadau eraill sydd ar gael i’r Cyngor yn
seiliedig ar y gwerth gorau, a
(d) bod y Cabinet yn
derbyn adroddiad i ddyfarnu’r contract i’r cynigiwr sy’n cynnig y budd
economaidd mwyaf ym mis Chwefror 2018.