Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PROPOSED CHANGES TO THE HC VEHICLES TABLE OF FARES AND CHARGES

Cyfarfod: 06/12/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 11)

11 NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD A THALIADAU CERBYDAU HACNI pdf eicon PDF 399 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu ffioedd presennol cerbydau hacni (tacsis).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod aelodau yn -

 

 (a)      cymeradwyo newid i’r tabl taliadau presennol fel a ganlyn:

 

·         Cyflwyno dewis 2 o’r costau fesul milltir.

·         Cyflwyno newidiadau fesul cam mewn lluosrif o £0.10 fesul 1/20fed y filltir yn unig. 

·         Cynyddu’r tâl baeddu i £100.

·         Cynyddu’r amser aros ar gyfer Tariff 1 i £0.30 y funud.

·         Cadw amser aros ar gyfer Tariff 2 yn £0.40 y funud.

·         Cynnwys Sul y Pasg yn Nhariff 2.

·         Cynnwys cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio yn yr eithriadau i’r tâl bagiau

·         Cadw’r tâl ychwanegol o £0.20 fesul eitem o fagiau y tu allan i’r adran teithiwr (ac eithrio siopa).

·         Cyflwyno tâl ychwanegol o £0.20 i bob anifail anwes, ac eithrio cŵn tywys.

 

(b)       Awdurdodi swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer Penderfyniad Dirprwyol Aelod Arweiniol i fabwysiadu’r newidiadau yn is-baragraff a) uchod;

 

(c)        Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau mewn papur newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar 1 Chwefror 2018,

 

(d)       Lle derbynnir unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau hynny yn eu cyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad) dim hwyrach nag 1 Ebrill 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i'r aelodau adolygu’r ffioedd a thaliadau cyfredol ar  gyfer cerbydau hacni (tacsis).

 

Yn dilyn cais gan gynrychiolydd gyrwyr trwyddedig i adolygu’r ffioedd tariff presennol, roedd swyddogion wedi ymgynghori gyda phob gyrrwr i ganfod ffi tariff priodol yn seiliedig ar bump opsiwn.    Roedd manylion yr ymatebion a dderbyniwyd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â sefyllfa'r awdurdod o fewn y "tabl cynghrair" o brisiau tacsis yn seiliedig ar bob opsiwn.  Cyfeiriwyd at y broses benderfynu a oedd yn destun hysbysiad cyhoeddus pellach a phenderfyniad dirprwyedig yr Aelod Arweiniol cyn ei weithredu.  Cynigiwyd bod unrhyw sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus yn cael eu cyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w hystyried ymhellach fel rhan o'r broses honno.

 

Trafododd yr Aelodau'r broses o wneud penderfyniadau gyda swyddogion, yn enwedig o gofio bod yr Aelod Cabinet Arweiniol perthnasol hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu, a chytunodd y swyddogion i ofyn am eglurhad pellach yn hynny o beth.  Cadarnhaodd swyddogion hefyd fod y tariffau mesurydd tacsi yn ymwneud â'r uchafswm ffioedd a thaliadau a osodwyd a gallai gweithredwyr godi swm is.  Nododd yr Aelodau bod nifer fawr o yrwyr trwyddedig wedi gofyn am gynnydd mewn ffioedd a thaliadau.

 

PENDERFYNWYD bod aelodau yn -

 

 (a)      cymeradwyo newid i’r tabl taliadau presennol fel a ganlyn:

 

·         Cyflwyno dewis 2 o’r costau fesul milltir.

·         Cyflwyno newidiadau fesul cam mewn lluosrif o £0.10 fesul 1/20fed y filltir yn unig. 

·         Cynyddu’r tâl baeddu i £100.

·         Cynyddu’r amser aros ar gyfer Tariff 1 i £0.30 y funud.

·         Cadw amser aros ar gyfer Tariff 2 yn £0.40 y funud.

·         Cynnwys Sul y Pasg yn Nhariff 2.

·         Cynnwys cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio yn yr eithriadau i’r tâl bagiau

·         Cadw’r tâl ychwanegol o £0.20 fesul eitem o fagiau y tu allan i’r adran teithiwr (ac eithrio siopa).

·         Cyflwyno tâl ychwanegol o £0.20 i bob anifail anwes, ac eithrio cŵn tywys.

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer Penderfyniad Dirprwyol Aelod Arweiniol i fabwysiadu’r newidiadau yn is-baragraff (a) uchod;

 

 (c)       awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau mewn papur newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar 1 Chwefror 2018, a

 

 (d)      lle derbynnir unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau hynny yn eu cyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad) dim hwyrach nag 1 Ebrill 2018. 

 

Ymatalodd y Cynghorydd Brian Jones rhag pleidleisio ar y mater hwn.