Mater - cyfarfodydd
PROPOSED AMENDMENTS TO THE EXISTING HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLE SPECIFICATIONS
Cyfarfod: 06/12/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 9)
9 DIWYGIADAU ARFAETHEDIG I FANYLION PRESENNOL CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 188 KB
Ystyried adroddiad
gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) yn manylu ar
ddiwygiadau arfaethedig i fanylion presennol cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD fod y diwygiadau i fanylebau cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad yn cael eu
cymeradwyo ar unwaith.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar y
newidiadau arfaethedig i'r manylebau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat
presennol i’r aelodau ei ystyried.
Roedd y
polisi trwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ynghyd â manylebau
ac amodau cerbydau, wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis
Rhagfyr 2016 yn dilyn ymgynghoriad helaeth a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 2017.
Roedd y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2017 wedi penderfynu
gwyro o'r fanyleb polisi o ran gofynion lleiafswm gofod coesau a gofynnodd i'r
swyddogion adolygu'r polisi manyleb cyfredol, yn benodol y fanyleb seddi
cerbydau, ac adrodd yn ôl cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Roedd manylion y diwygiadau
arfaethedig wedi'u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad.
Nododd yr
aelodau, heblaw am y diwygiadau at ddibenion eglurhad, fod y mwyafrif o'r
diwygiadau arfaethedig yn dileu'r manylebau cerbyd mwy cyfyngol o blaid
cerbydau’n "cael eu cymeradwyo yn ôl math" gan eu bod eisoes wedi'u
hystyried yn addas i'r diben i gario nifer y teithwyr fel y manylwyd arnynt ar
y dogfennau cofrestru cerbydau. O'i roi i’r
bleidlais -
PENDERFYNWYD fod y diwygiadau i fanylebau cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad yn cael eu
cymeradwyo ar unwaith.