Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

RENEWAL APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. DR186

Cyfarfod: 06/12/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 8)

8 ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD DR186

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif  523920.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Yrrwr rhif DR186, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            chais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

 DR186 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

(ii)          roedd gwiriad arferol ar Drwydded Yrru DVLA yr Ymgeisydd wedi cadarnhau'r croniad o ddeuddeg pwynt cosb am droseddau goryrru yn ystod y cyfnod rhwng Medi 2013 a Rhagfyr 2016;

 

(iii)         dogfennaeth berthnasol yn ymwneud â’r achos, yn cynnwys manylion cyfweliad ffurfiol yr Ymgeisydd ynghyd â geirdaon am ei gymeriad yn amgaeedig gyda’r adroddiad;

 

(iv)         roedd yr Ymgeisydd wedi apelio i'r Llys Ynadon yn erbyn y swyddogion yn gwrthod y cais o dan benderfyniad dirprwyedig, gan arwain at gytundeb i gyflwyno'r cais adnewyddu i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w benderfynu;

 

(v)          polisi'r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd nad oedd yr Ymgeisydd yn falch o'i gofnod gyrru a chronni naw pwynt cosb (gyda’r euogfarnau hynaf wedi eu tynnu oddi ar y cofnod ers hynny) a manylodd ar yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r troseddau goryrru a gyflawnwyd mewn ardaloedd anghyfarwydd yn ei gerbyd preifat ac nid wrth weithio fel gyrrwr trwyddedig.  Cyfeiriodd at feysydd o fewn polisi erlyniad y cyngor gan ddadlau nad oedd yr Ymgeisydd yn anonest ac nad oedd yn fygythiad i'r cyhoedd na diogelwch y cyhoedd, a thynnodd sylw at y geirdaon rhagorol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a ddarparwyd yn wirfoddol gan drawstoriad o'r gymuned yn tystio i'w gymeriad da.  O ran sancsiynau rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod yr Ymgeisydd wedi cael ei atal am bron i ddau fis ac nad oedd wedi gallu gweithio yn ystod yr amser hwnnw a oedd wedi achosi caledi ariannol gyda rhagolygon cyflogaeth isel ar gyfer y dyfodol.  Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei alluoedd gyrru.  Cadarnhaodd nad oedd wedi cael cynnig cwrs ymwybyddiaeth cyflymder.

 

Wrth wneud datganiad terfynol, cafodd yr Ymgeisydd ei ddisgrifio gan ei gynrychiolydd cyfreithiol fel unigolyn ymroddedig a gyrrwr cymwys a oedd wedi mynegi edifeirwch gwirioneddol ac wedi cadw cofnod gyrru glân dros y deuddeng mis diwethaf.  Dywedodd fod y geirdaon o ran ei gymeriad yn rhoi sicrwydd pellach ynghylch ei gymeriad yn dangos ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

 

Gadawodd y Cynghorydd Tony Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  DR186, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad yn ofalus a'r cyflwyniadau a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd i gefnogi ei gais.  Canfu'r pwyllgor fod yr Ymgeisydd yn ddilys yn ei anerchiad a’i ymateb i gwestiynau a hefyd dangoswyd trwy eirdaon ei fod yn unigolyn dibynadwy a pharchus.  O ganlyniad, cafwyd bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ynglŷn â throseddau cyflymder yr Ymgeisydd a chytunwyd i roi rhybudd ffurfiol ynghylch ymddygiad yr Ymgeisydd yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad y Pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r Ymgeisydd.