Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 517116
Cyfarfod: 06/12/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)
7 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 517116
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 517116.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (7/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (7/3)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (7/4)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am drwydded i yrru cerbyd hacni
a cherbyd hurio preifat gan ymgeisydd rhif 517116, gyda rhybudd ffurfiol yn
cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –
(i)
ail-ystyried
cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif
517116 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat yn dilyn apêl yn erbyn gwrthod y cais gan y Pwyllgor
Trwyddedu ym mis Mehefin 2017;
(ii)
collfarnau
a ddatgelwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS),
yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd ym 1988 o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988,
a oedd heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd, a’r croniad o 14 pwynt cosb ar ei
Drwydded Gyrru DVLA a oedd yn ymwneud a throseddau traffig a gyflawnwyd rhwng
2014 a 2015, gydag un ohonynt heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd;
(iii)
dogfennaeth
berthnasol yn ymwneud â’r achos, yn cynnwys manylion cyfweliad ffurfiol yr
Ymgeisydd yn amgaeedig gyda’r adroddiad;
(iv)
polisi'r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau, a’r
(v)
estyn
gwahoddiad i’r ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau.
Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i
gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor.
Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodaeth (TB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.
Tynnodd
cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd sylw at yr anawsterau pan ddefnyddiwyd
gwahanol reolau gan wahanol sefydliadau a arweiniodd at gamddealltwriaeth o ran
datgelu euogfarnau perthnasol fel rhan o'r broses ymgeisio yn yr achos hwn. Ni fu unrhyw
ymgais gan yr Ymgeisydd i dwyllo neu guddio unrhyw wybodaeth a ddaeth i’r amlwg
trwy gyflwyno gwiriad DBS a gwiriad arferol hysbys o drwydded yrru DVLA yr
Ymgeisydd. Cyfeiriwyd at
amseriad yr euogfarnau moduro a gafodd yr Ymgeisydd a'r euogfarnau a oedd wedi
'pasio' a oedd yn parhau ar gofnod am ddeuddeng mis pellach ac na chafwyd
euogfarnau am droseddau moduro ers dros ddwy flynedd.
Cyflwynwyd bod yr Ymgeisydd wedi
derbyn ei gamgymeriad ac roedd o gymeriad da ac yn meddu ar y rhinweddau
angenrheidiol i fod yn yrrwr trwyddedig cyfrifol a dibynadwy.
Hysbyswyd yr
Aelodau am ddau fater i'w hystyried yn yr achos hwn, (1) peidio â datgelu
euogfarnau perthnasol, a (2) y pwyntiau cosb a oedd yn parhau'n ddilys o ran y
cais. Atebodd yr
Ymgeisydd ei fod wedi cael gwybod na fyddai'r euogfarnau wedi 'pasio' yn ei
atal rhag cael trwydded ac roedd yn derbyn bod tri phwynt cosb yn parhau'n
ddilys ar ei drwydded a'u bod wedi cael eu datgelu.
Cadarnhaodd hefyd ei fod wedi
cael cynnig cyflogaeth pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu.
Yn ei ddatganiad
terfynol, ailadroddodd cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd fod camgymeriad
gwirioneddol wedi'i wneud ynghylch y diffyg datgelu, a bod yr Ymgeisydd wedi
ymddiheuro am hyn a gofynnodd i'r aelodau edrych yn ffafriol ar y cais.
Gohiriwyd
y pwyllgor i ystyried y cais a -
PHENDERFYNWYD caniatáu cais Ymgeisydd Rhif 517116 am drwydded yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat,
gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu –
Ar ôl ystyried yr esboniad gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â'r troseddau a pheidio â datgelu troseddau perthnasol, derbyniodd yr Aelodau ei fod wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol yn yr achlysur hwn ac ni fu unrhyw fwriad i dwyllo. Nodwyd bod y troseddau moduro wedi digwydd beth amser yn ôl ac roedd gan yr Ymgeisydd gyfnod yn rhydd o euogfarnau ers dros ddwy flynedd. Er bod rhai pwyntiau dilys ar Drwydded DVLA yr Ymgeisydd, nid oedd y pwyllgor yn eu hystyried mor ddifrifol fel ei fod yn anaddas i weithredu fel gyrrwr trwyddedig. O ganlyniad, cafwyd bod yr ... view the full Cofnodion text for item 7