Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 516098
Cyfarfod: 06/12/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)
6 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 516098
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm)
yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 516098.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod cais Ymgeisydd Rhif 516098 am drwydded
gyrrwr cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat
Cofnodion:
[Datganodd y Cynghorydd Barry
Mellor gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd bod yr ymgeisydd
yn hysbys iddo ac fe adawodd y cyfarfod tra bo’r cais yn cael ei ystyried.]
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol –
(i)
cais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif
516098 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat;
(ii)
bod yr Ymgeisydd wedi'i drwyddedu gan yr awdurdod yn flaenorol ac wedi’i
ddwyn gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar dri achlysur gwahanol ym mis Ionawr 2010,
Mawrth 2011 a Mawrth 2016 gan arwain at rybuddion ffurfiol am y ddau achlysur
cyntaf a dirymu ei drwydded ar yr achlysur olaf;
(iii)
polisi
y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r
(iv)
estyn
gwahoddiad i’r ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau.
Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i
gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor.
Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodaeth (HB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.
Rhoddodd cynrychiolydd
yr Ymgeisydd rywfaint o wybodaeth gefndirol yn ymwneud â hanes blaenorol yr
Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig, gan dynnu sylw at y ffaith fod y cyngor wedi
methu â darparu'r hyfforddiant ffurfiol priodol fel y cyfarwyddwyd gan y
pwyllgor ym mis Mawrth 2011 a chyfeiriodd at effaith ac amgylchiadau dilynol yr
achos yn 2016 a arweiniodd at ddirymu trwydded yr Ymgeisydd i yrru cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat. Roedd cwynion blaenorol wedi'u gwneud tra bod yr
Ymgeisydd wedi bod yn ymgymryd â gwaith contract ysgol ond ni fu unrhyw broblem
wrth gyflawni gwaith trwyddedu tacsi prif ffrwd cyffredinol. O ganlyniad,
dywedodd yr Ymgeisydd, pe bai yn cael trwydded, na fyddai'n ymgymryd â gwaith
cludiant ysgol. Darllenwyd geirda gan gyflogwr presennol yr Ymgeisydd
yn y cyfarfod yn tynnu sylw at nifer o rinweddau da ac yn ei argymell ar gyfer
cyflogaeth.
Cymerodd
yr Aelodau’r cyfle i holi'r Ymgeisydd er mwyn canfod a oeddent yn ei ystyried
yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.
Eglurodd yr Ymgeisydd, pe bai
trwydded yn cael ei chaniatáu, ni fyddai'n ymgymryd â gwaith contractau ysgol
ond byddai'n cludo plant o ran y gwaith arferol o yrru tacsi, e.e. codi o'r
stryd / safle neu waith a archebwyd ymlaen llaw.
Roedd ganddo wyrion ac wyresau ei
hun, felly roedd yn ymwybodol o'u hymddygiad, a dywedodd y byddai'n iawn cyn
belled bod oedolyn yng nghwmni’r plant ac yn eu cadw dan reolaeth a sicrhau nad
oeddent yn ymyrryd â'i yrru. Cydnabu y gallai wynebu ymddygiad heriol gan bobl
ifanc yn hwyr yn y nos a dywedodd y byddai'n gallu ymdopi gan ei fod wedi cludo
plant o'r blaen heb unrhyw broblemau. O safbwynt hyfforddiant, cadarnhaodd yr Ymgeisydd nad
oedd wedi derbyn hyfforddiant ar gludo plant ag anghenion arbennig ond roedd
wedi derbyn yr hyfforddiant gorfodol ym maes ymwybyddiaeth Cam-drin Plant yn
Rhywiol a gyflwynwyd yn ddiweddar fel rhan o broses ymgeisio'r Cyngor.
Yn ystod holi pellach o’r Ymgeisydd a'r
swyddogion, fe sefydlwyd -
·
roedd y pwyllgor
ym mis Mawrth 2011 wedi rhoi amod a oedd yn gofyn i'r Ymgeisydd ymgymryd â
hyfforddiant ffurfiol priodol mewn perthynas â chludo plant ag anghenion
arbennig o fewn 28 diwrnod.
· Fodd bynnag, nid oedd wedi'i egluro pwy oedd yn gyfrifol am ddarparu'r hyfforddiant hwnnw ac er bod rhywfaint o hyfforddiant gyrwyr wedi'i drefnu gan yr Adran Cludiant Ysgol, nid oedd wedi ymwneud yn benodol â chario plant ag anghenion arbennig. • Dadleuodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd fod y cyfrifoldeb ar y cyngor i hwyluso'r ddarpariaeth hyfforddiant honno. Er bod ... view the full Cofnodion text for item 6