Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE DRIVER REGIME

Cyfarfod: 20/09/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 8)

8 ADOLYGU TREFN GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) am ddatblygu Polisi drafft Gyrwyr Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat i roi gwell rheoleiddio a chefnogaeth i’r drefn cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn y sir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i ddechrau gweithio ar bolisi drafft gan ystyried barn yr aelodau ac unrhyw ddatblygiadau o broses Llywodraeth Cymru, ac awdurdodi ymgynghoriad Sir Ddinbych â phartïon â diddordeb, ac adrodd yn ôl i gyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â datblygu Polisi Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i reoleiddio a chefnogi'r gyfundrefn cerbydau hacni a preifat hurio yn well yn y sir.

 

Er bod gyrwyr yn destun gwiriadau amrywiol i asesu eu haddasrwydd, nid oedd polisi ysgrifenedig ar hyn o bryd a gofynnodd swyddogion am farn yr aelodau ar y gyfundrefn a meysydd penodol i'w gwella fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  Tynnwyd sylw'r Aelodau at ddogfen ymgynghorol Llywodraeth Cymru (ynghlwm wrth yr adroddiad) ar ddiwygio deddfwriaeth tacsi a allai effeithio ar reoleiddio yn y dyfodol a byddai'n cael ei ystyried wrth ddatblygu'r polisi.

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r adroddiad a thrafodwyd y meysydd gwella posibl fel a ganlyn:

 

Profion Meddygol - roedd cefnogaeth gyffredinol i symud i Safonau Ffitrwydd Meddygol Grŵp 2 fel y'i cymhwysir gan y DVLA ar gyfer gyrwyr HGV a bysiau.  Cadarnhaodd y swyddogion bod angen i yrwyr hysbysu'r awdurdod trwyddedu o newidiadau mewn hanes meddygol a byddai'r elfen hon yn cael ei ysgrifennu yn y polisi newydd.

 

Cymhwyster - nid oedd cymhwyster ar gyfer gyrwyr trwyddedig ar hyn o bryd ac roedd aelodau'n croesawu cyflwyno cymhwyster addas ar gyfer ymgeiswyr newydd y gellid ei ddefnyddio hefyd fel offeryn gorfodaeth ychwanegol ar gyfer unrhyw dor-amodau o ran trwyddedau tacsi er mwyn codi safonau a gwella ymddygiad.  Cynghorodd swyddogion am gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol yn cwmpasu meysydd fel gwasanaeth cwsmer a safonau gyrru a ddefnyddiwyd gan awdurdodau lleol eraill.  Gofynnodd yr Aelodau bod swyddogion yn ymgymryd ag ymchwil pellach i’r opsiynau cyrsiau posibl a goblygiadau cost, gan gynnwys y cyrsiau hynny a ddefnyddir gan awdurdodau lleol eraill.  Cadarnhawyd y byddai cost y cwrs yn cael ei dalu gan yr unigolyn ac nid yr awdurdod trwyddedu.

 

Oedran a Phrofiad Gyrru - trafododd yr aelodau'r posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiad oedran isafswm i sicrhau bod gan ymgeiswyr brofiad a gwybodaeth briodol am yrru ond roeddent hefyd yn ofalus i ystyried gwahaniaethu ar sail oed a’r Ddeddf Cydraddoldeb.  Cytunodd y pwyllgor fod profiad gyrru yn feini prawf pwysig y mae'n rhaid i bob ymgeisydd ei ddangos.

 

Yn ogystal â'r uchod, trafododd yr aelodau gyda'r swyddogion a ellid gwneud mwy i sicrhau bod gyrwyr yn datgan euogfarnau moduro i'r awdurdod trwyddedu a chwmnïau yswiriant, yn enwedig o ystyried y goblygiadau am beidio â datgelu.  Cytunwyd bod y ffurflenni cais yn cael eu hadolygu er mwyn asesu a ellid tynnu sylw at yr agwedd hon ymhellach a'i gwneud yn gliriach i ymgeiswyr, a chadarnhaodd swyddogion hefyd y gellid cynnwys cyfeiriad ychwanegol ar y ffurflen yn gofyn i ymgeiswyr ddatgan eu bod wedi hysbysu eu cwmni yswiriant o euogfarnau moduro perthnasol.  Gellid hefyd cynnwys rhybuddion cryfach ynghylch datgelu euogfarnau yn y Polisi Euogfarnau Gyrwyr.   Rhoddodd swyddogion sicrwydd bod camau rhagweithiol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater a bod trafodaethau'n parhau gyda'r Heddlu gyda'r bwriad o rannu gwybodaeth am euogfarnau gyrwyr.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

 (b)      cyfarwyddo swyddogion i ddechrau llunio’r polisi drafft, gan ystyried barn yr aelodau fel y manylwyd uchod ac unrhyw ddatblygiadau o broses Llywodraeth Cymru, a dechrau ymgynghoriad Sir Ddinbych â phartïon â diddordeb, gan adrodd yn ôl mewn cyfarfod diweddarach o’r pwyllgor.