Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE DRIVER REGIME
Cyfarfod: 20/09/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 8)
8 ADOLYGU TREFN GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 200 KB
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) am
ddatblygu Polisi drafft Gyrwyr Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat i roi gwell
rheoleiddio a chefnogaeth i’r drefn cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn
y sir.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) nodi cynnwys yr adroddiad, a
(b) bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i ddechrau gweithio ar bolisi drafft gan ystyried barn yr aelodau ac unrhyw ddatblygiadau o broses Llywodraeth Cymru, ac awdurdodi ymgynghoriad Sir Ddinbych â phartïon â diddordeb, ac adrodd yn ôl i gyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â datblygu Polisi Gyrwyr Cerbydau Hacni
a Cherbydau Hurio Preifat i reoleiddio a chefnogi'r gyfundrefn cerbydau hacni a
preifat hurio yn well yn y sir.
Er bod gyrwyr yn destun gwiriadau amrywiol i asesu eu
haddasrwydd, nid oedd polisi ysgrifenedig ar hyn o bryd a gofynnodd swyddogion
am farn yr aelodau ar y gyfundrefn a meysydd penodol i'w gwella fel y manylwyd
arnynt yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw'r
Aelodau at ddogfen ymgynghorol Llywodraeth Cymru (ynghlwm wrth yr adroddiad) ar
ddiwygio deddfwriaeth tacsi a allai effeithio ar reoleiddio yn y dyfodol a
byddai'n cael ei ystyried wrth ddatblygu'r polisi.
Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r
adroddiad a thrafodwyd y meysydd gwella posibl fel a ganlyn:
Profion
Meddygol - roedd cefnogaeth gyffredinol i symud i Safonau Ffitrwydd Meddygol
Grŵp 2 fel y'i cymhwysir gan y DVLA ar gyfer gyrwyr HGV a bysiau. Cadarnhaodd y swyddogion bod angen i yrwyr
hysbysu'r awdurdod trwyddedu o newidiadau mewn hanes meddygol a byddai'r elfen
hon yn cael ei ysgrifennu yn y polisi newydd.
Cymhwyster - nid oedd
cymhwyster ar gyfer gyrwyr trwyddedig ar hyn o bryd ac roedd aelodau'n croesawu
cyflwyno cymhwyster addas ar gyfer ymgeiswyr newydd y gellid ei ddefnyddio
hefyd fel offeryn gorfodaeth ychwanegol ar gyfer unrhyw dor-amodau o ran
trwyddedau tacsi er mwyn codi safonau a gwella ymddygiad. Cynghorodd swyddogion am gymwysterau a gydnabyddir
yn genedlaethol yn cwmpasu meysydd fel gwasanaeth cwsmer a safonau gyrru a
ddefnyddiwyd gan awdurdodau lleol eraill.
Gofynnodd yr Aelodau bod swyddogion yn ymgymryd ag ymchwil pellach i’r
opsiynau cyrsiau posibl a goblygiadau cost, gan gynnwys y cyrsiau hynny a
ddefnyddir gan awdurdodau lleol eraill.
Cadarnhawyd y byddai cost y cwrs yn cael ei dalu gan yr unigolyn ac nid yr
awdurdod trwyddedu.
Oedran a Phrofiad Gyrru - trafododd yr aelodau'r posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiad oedran isafswm
i sicrhau bod gan ymgeiswyr brofiad a gwybodaeth briodol am yrru ond roeddent hefyd
yn ofalus i ystyried gwahaniaethu ar sail oed a’r Ddeddf Cydraddoldeb. Cytunodd y pwyllgor fod profiad gyrru yn feini
prawf pwysig y mae'n rhaid i bob ymgeisydd ei ddangos.
Yn ogystal â'r uchod, trafododd yr aelodau gyda'r
swyddogion a ellid gwneud mwy i sicrhau bod gyrwyr yn datgan euogfarnau moduro
i'r awdurdod trwyddedu a chwmnïau yswiriant, yn enwedig o ystyried y
goblygiadau am beidio â datgelu.
Cytunwyd bod y ffurflenni cais yn cael eu hadolygu er mwyn asesu a ellid
tynnu sylw at yr agwedd hon ymhellach a'i gwneud yn gliriach i ymgeiswyr, a
chadarnhaodd swyddogion hefyd y gellid cynnwys cyfeiriad ychwanegol ar y
ffurflen yn gofyn i ymgeiswyr ddatgan eu bod wedi hysbysu eu cwmni yswiriant o
euogfarnau moduro perthnasol.
Gellid hefyd cynnwys rhybuddion cryfach ynghylch datgelu euogfarnau yn y
Polisi Euogfarnau Gyrwyr. Rhoddodd swyddogion
sicrwydd bod camau rhagweithiol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater a
bod trafodaethau'n parhau gyda'r Heddlu gyda'r bwriad o rannu gwybodaeth am euogfarnau
gyrwyr.
PENDERFYNWYD –
(a) nodi cynnwys yr adroddiad, a
(b) cyfarwyddo swyddogion i ddechrau llunio’r polisi drafft, gan ystyried barn
yr aelodau fel y manylwyd uchod ac unrhyw ddatblygiadau o broses Llywodraeth
Cymru, a dechrau ymgynghoriad Sir Ddinbych â phartïon â diddordeb, gan adrodd
yn ôl mewn cyfarfod diweddarach o’r pwyllgor.