Mater - cyfarfodydd
WALES AUDIT OFFICE ANNUAL IMPROVEMENT REPORT 2016-17
Cyfarfod: 04/07/2017 - Cyngor Sir (Eitem 6)
6 ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU 2016-17 PDF 417 KB
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) i roi
gwybod i Aelodau am gasgliad a chynigion gwella SAC.
Dogfennau ychwanegol:
- Denbighshire AIR 2016-17 - Welsh, Eitem 6 PDF 609 KB
- AIR presentationbilingual - PDFCopy, Eitem 6 PDF 2 MB
- Webcast for ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU 2016-17
Cofnodion:
Cyflwynodd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Gwilym Bury, Adroddiad Gwella Blynyddol
Swyddfa Archwilio Cymru 2016-17 (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i gynghori’r
Cyngor ar gasgliad a chynigion gwella Swyddfa Archwilio Cymru, ac i gael
cefnogaeth y Cyngor o ran ymateb i'r Adroddiad.
Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol, roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu
cynnydd y Cyngor yn flynyddol tuag at gyflawni ei amcanion a'i ragolygon er
mwyn parhau i wella yn ystod y flwyddyn i ddod.
Yn gyffredinol, roedd hwn wedi bod yn adroddiad cadarnhaol iawn, ac nid
oedd unrhyw argymhellion wedi’u cyflwyno.
Fodd bynnag, tynnodd yr adroddiad sylw at chwe “chynnig i wella” i’w
hystyried:
(i)
Cryfhau
trefniadau llywodraethu drwy fonitro effaith pob newid arwyddocaol i
wasanaethau yn gyson ac amserol.
(ii)
Cryfhau
trefniadau cynllunio ariannol drwy:
Ø
Ddatblygu
polisi cynhyrchu incwm / codi tâl
Ø
Rhoi
sgôr risg ffurfiol i arbedion yn ôl pa mor gyraeddadwy ydynt a nodi camau
lliniaru cynaliadwy i'r rheiny a ystyrir yn rhai risg uchel.
(iii) Cryfhau trefniadau rheoli pobl drwy:
Ø
Ddatblygu
dull i sicrhau bod gweithwyr heb fynediad i’r rhyngrwyd, neu fynediad
cyfyngedig ato, yn gallu cael gafael ar wybodaeth AD berthnasol, a
Ø
Sicrhau
bod amrywiadau ac anghysondeb wrth gymhwyso polisïau AD yn cael eu hosgoi ar
gyfer gweithwyr rheng flaen nad ydynt mewn swyddfa.
(iv) Cryfhau trefniadau rheoli asedau drwy
sicrhau bod camau gweithredu eisoes yn mynd rhagddynt i foderneiddio trefniadau
rheoli asedau corfforaethol i hyrwyddo defnydd mwy effeithlon ac effeithiol o
bortffolio tir ac eiddo'r Cyngor, ac atgyfnerthu ei gyfraniad fel adnodd
strategol.
(v) Cryfhau trefniadau TGCh drwy:
Ø
Sicrhau
bod y Cyngor yn ymgynghori â’i wasanaeth TGCh ynghylch unrhyw bethau technoleg
a brynir, ar gyfer pryniannau strategol ac arferol, a
Ø
Sicrhau
bod arbenigedd TGCh digonol yn cael ei gynnwys mewn camau caffael a gweithredu
sy’n fwy o risg ac ar raddfa fwy.
(vi) Cryfhau trefniadau rheoli gwybodaeth drwy:
Ø
Sicrhau
bod trefniadau Llywodraethu Gwybodaeth yn bodloni gofynion y safonau
rhyngwladol ac yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o’r Cyngor cyfan
Ø
Ymestyn
cylch gorchwyl y Grŵp Llywodraethu Gwybodaeth i gynnwys anghenion
gwybodaeth busnes, yn ogystal â'r gofynion i gydymffurfio
Ø
Datblygu
Strategaeth Wybodaeth, yn gysylltiedig â strategaethau adnoddau eraill, i
siapio’r defnydd o wybodaeth a sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch yn ôl yr
angen, a
Ø
Datblygu
cynlluniau gweithredu tymor hwy i’r System Rheoli Cofnodion a Dogfennau
Electronig, i symud y Cyngor tuag at ei nod o amgylchedd swyddfa di-bapur.
Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y diweddariad
gan y Cyngor i’r cynigion ar gyfer gwella, fel a ganlyn:
(i)
Roedd
trefniadau cadarn yn eu lle i fonitro newid gwasanaeth. Byddai hyn yn parhau i fod yn rôl arweiniol
i’r broses Archwilio a Herio Gwasanaeth yn enwedig
(ii)
Byddai’r
adroddiad yn mynd gerbron y Cabinet erbyn Hydref 2017 yn amlinellu’r cynigion i
gryfhau trefniadau yn y maes hwn. Roedd
system well o sgorio risg y cynlluniau effeithlonrwydd am gael eu mabwysiadu
mewn pryd ar gyfer 2018/19.
(iii) O Fedi 2017, byddai mewnrwyd AD ar gael i’r
holl staff drwy'r rhyngrwyd, ac roedd trefniadau gweithio’n hyblyg yn cael eu
hadolygu ar hyn o bryd gyda’r bwriad o gael dull mwy cyson ar draws y Cyngor.
(iv) Roedd y Cyngor yn parhau i weithredu gwelliannau i’w brosesau rheoli asedau. Roedd y trefniadau Grŵp Rheoli Asedau newydd wedi’u gweithredu ac yn gweithio’n effeithiol. Roedd y cyfnod ymgynghori ar y Strategaeth Rheoli Asedau wedi dod i ben ym Mai 2017, ac roedd disgwyl y byddai’r strategaeth yn cael ei mabwysiadu yn yr haf. Ochr yn ochr â hyn, roedd cyfres newydd o fesurau perfformiad yn cael ... view the full Cofnodion text for item 6