Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF STREET TRADING POLICY

Cyfarfod: 28/06/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 13)

13 ADOLYGU'R POLISI MASNACHU AR Y STRYD pdf eicon PDF 186 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu), yn diweddaru aelodau o'r cynnydd mewn perthynas ag adolygiad o bolisi presennol masnachu ar y stryd yn Sir Ddinbych.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad ac awdurdodi swyddogion i barhau i weithio ar y Polisi Masnachu ar y Stryd drafft, gyda fersiwn derfynol yn cael ei chyflwyno i gyfarfod nesaf y pwyllgor i'w hystyried.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn diweddaru aelodau ar y cynnydd â'r bwriad o adolygu'r Polisi Masnachu ar y Stryd cyfredol yn Sir Ddinbych.

 

Yn 2015, awdurdodwyd swyddogion gan y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu'r polisi masnachu ar y stryd presennol er mwyn mynd i'r afael ag anawsterau gyda'r gyfundrefn ac awgrymu gwelliannau i reoleiddio a chefnogi masnachu ar strydoedd y sir yn well.  Ystyriwyd polisi drafft gan y Pwyllgor Trwyddedu yn Rhagfyr 2016, a chytunwyd y byddai ymgynghoriad cychwynnol yn cael ei wneud gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned, ynghyd ag adrannau cyngor mewnol, yn enwedig o ran system arfaethedig y caniatâd bloc dros dro a digwyddiadau arbennig a amlinellir yn y polisi drafft, cyn ymgynghoriad cyhoeddus.  Roedd y sylwadau a ddaeth i law o ganlyniad i’r ymgynghoriad cychwynnol wedi’u cynnwys yn y drafft diweddaraf, a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus tan 30 Mehefin 2017. Awgrymwyd y byddai drafft terfynol, yn ymgorffori ymatebion o ganlyniad i'r ymgynghoriad cyhoeddus, yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor.

 

Tynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield sylw at bwysigrwydd polisi addas at y diben, yn enwedig ar gyfer trefi mwy, ac roedd yn falch y byddai’r polisi’n cael ei gyflwyno’n ôl i’r pwyllgor er mwyn ei gadarnhau.  Er nad oedd yn cofio’r polisi drafft yn cael ei gyflwyno gerbron Cyngor Tref y Rhyl, byddai’n adolygu eu hymateb ac yn ailedrych ar y polisi drafft mewn ymateb i’r ymgynghoriad.  Roedd y Cynghorydd Butterfield yn arbennig o awyddus i adolygu’r system arfaethedig o ganiatâd bloc dros dro ar gyfer masnachu ar y stryd, ac awgrymodd y dylid cynhyrchu map yn hynny o beth er mwyn eglurder.  Fe wnaeth y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd annog ymgysylltiadau â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned, a chroesawodd y cyfle i drafod y mater ymhellach.  Nid oedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn cofio’r polisi drafft yn cael ei gyflwyno gerbron Cyngor Tref y Rhuddlan, ond dywedodd y byddai’n gwneud ymholiadau.  Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Roberts o ran cost cau’r ffyrdd ar gyfer digwyddiadau cymunedol, sefydlwyd nad oedd yn fater i’w ystyried o dan y polisi masnachu ar y stryd, ond gallai fod yn fater i archwilio ei ystyried.   Cytunodd y Cynghorydd Roberts i gyflwyno ffurflen cynnig gan aelodau i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio’n uniongyrchol yn hynny o beth.  Teimlai’r Cynghorydd Huw Williams y byddai'n werth ymgynghori â’r Grwpiau Ardal Aelodau hefyd ar y polisi masnachu ar y stryd drafft.  Rhoddodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd wybod y byddai polisi terfynol yn cael ei ddrafftio’n dilyn y cyfnod ymgynghori, a chytunodd i ymgysylltu â’r Grwpiau Ardal Aelodau cyn cyflwyno’r fersiwn terfynol i’r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad ac awdurdodi swyddogion i barhau i weithio ar y Polisi Masnachu ar y Stryd drafft, gyda fersiwn terfynol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y pwyllgor i'w hystyried.