Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 06/06/2017 - Cabinet (Eitem 9)

9 ADRODDIAD CYLLID (MAI – YN CYNNWYS LLYFR CRYNODEB Y GYLLIDEB 2017/18) pdf eicon PDF 340 KB

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig), yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan roi manylion y sefyllfa ariannol a’r cyllidebau gwasanaeth diweddaraf ar gyfer 2017/18 ynghyd â Llyfr Crynodeb Cyllideb 2017/18 (Atodiad 1 yr adroddiad).  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        roedd cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2017/18 yn £189.252m (£185.062m yn 2016/17)

·        manylion arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth gwerth £0.902m a oedd wedi’u cytuno eisoes fel rhan o'r gyllideb, gyda'r rhagdybiaeth y byddai’r cyfan yn cael ei ddarparu – byddai unrhyw eithriadau’n cael eu hadrodd i'r Cabinet pe bai angen

·        does dim anghytundebau i’w hadrodd ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol, ond roedd nifer o bwysau gwasanaeth wedi’u nodi sydd angen eu monitro'n ofalus, a

·        diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, Y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Huw Jones y gostyngiad yn y gyllideb a ddangosir yn erbyn y gwasanaethau parcio, sef yr incwm a gyllidebwyd yn bennaf, y disgwyliwyd iddo gael ei godi o daliadau parcio.  Cytunodd y Pennaeth Cyllid i ganfod a yw'r swm yn cynnwys unrhyw ffioedd neu elfennau eraill a allai gyfrif am y gostyngiad ac adrodd yn ôl ar hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni.