Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 510104

Cyfarfod: 08/03/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)

5 ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 510104

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 510104.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  510104.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif 510104 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn croniad o chwe phwynt cosb ar ei drwydded yrru DVLA am ddefnyddio cerbyd modur heb ei yswirio yn erbyn risg trydydd person yn Hydref 2015 a ddatgelwyd yn dilyn archwiliad arferol fel rhan o'i gais adnewyddu;

(ii)       Gyrrwr wedi methu datgelu euogfarn moduro adeg yr euogfarn neu fel rhan o’i gais adnewyddu fel sy’n ofynnol gan amodau trwyddedu;

 

(iii)      polisi’r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, ac

 

(iv)      roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi derbyn adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi’r adroddiad (LJ) gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd y Gyrrwr ei fod wirioneddol yn credu bod ei gerbyd wedi’i yswirio a bod ei gwmni yswiriant wedi cyfaddef gwall clercyddol pan gafodd ei holi mewn perthynas â’r yswiriant.     Rhoddodd sicrwydd na fu unrhyw ymdrech fwriadol i dwyllo ar ei ran ef.    Ymatebodd y Gyrrwr i gwestiynau’r aelodau ac ymhelaethodd ar yr amgylchiadau oedd yn ymwneud â’r drosedd a’i gamau a derbyniodd y gallai fod wedi darparu tystiolaeth i gefnogi ei ochr ef.    O ran diffyg datguddio'r euogfarn cyfeiriodd y Gyrrwr at ei amgylchiadau personol ar y pryd gan ddweud bod yr euogfarn wirioneddol wedi mynd o'i feddwl ac nad oedd yn gyrru tacsis yn llawn amser.    Yn ei ddatganiad terfynol ailadroddodd y Gyrrwr ei fod wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol trwy beidio â datgelu'r euogfarn. 

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  510104.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd Aelodau ffeithiau’r achos a’r ple lliniaru a gyflwynwyd gan y gyrrwr a’i ymateb i gwestiynau yn ofalus.  Roedd y pwyllgor wedi darganfod anghysondeb rhwng yr hyn a ddywedwyd gan y Gyrrwr yn y cyfarfod a'i ddatganiad tyst nad oedd yn adlewyrchu'n dda ar ei hygrededd ac nad oedd wedi darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei ochr ef.    O ran ei ddiffyg datguddio, roedd y ffurflen gais adnewyddu yn gofyn yn glir am fanylion unrhyw euogfarnau moduro.    O ganlyniad, roedd y pwyllgor yn credu bod y Gyrrwr yn fwriadol wedi methu datgelu’r euogfarn er mwyn sicrhau y byddai ei drwydded yn cael ei hadnewyddu a'i fod yn gwybod ei fod wedi gwneud datganiad ffug.  Ystyriaeth bwysicaf y pwyllgor oedd gwarchod y cyhoedd.  O ystyried diystyrwch amlwg y Gyrrwr o’r rheolau a’i ymgais fwriadol i dwyllo nid oedd y pwyllgor yn ei ystyried yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded a phenderfynwyd gwrthod y cais adnewyddu.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr a chafodd wybod am ei hawl i apelio.