Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 510104
Cyfarfod: 08/03/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)
5 ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 510104
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 510104.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (5/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (5/3)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif 510104.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –
(i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif 510104 i ddal trwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn croniad o chwe phwynt cosb ar
ei drwydded yrru DVLA am ddefnyddio cerbyd modur heb ei yswirio yn erbyn risg
trydydd person yn Hydref 2015 a ddatgelwyd yn dilyn archwiliad arferol fel rhan
o'i gais adnewyddu;
(ii)
Gyrrwr wedi methu datgelu euogfarn moduro adeg yr
euogfarn neu fel rhan o’i gais adnewyddu fel sy’n ofynnol gan amodau trwyddedu;
(iii)
polisi’r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau,
ac
(iv)
roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i ddod i'r cyfarfod i
gefnogi ei gais adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.
Cadarnhaodd y Gyrrwr ei
fod wedi derbyn adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.
Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodi’r adroddiad (LJ) gan fanylu ar ffeithiau'r achos.
Eglurodd y Gyrrwr ei fod
wirioneddol yn credu bod ei gerbyd wedi’i yswirio a bod ei gwmni yswiriant wedi
cyfaddef gwall clercyddol pan gafodd ei holi mewn perthynas â’r yswiriant. Rhoddodd sicrwydd na fu
unrhyw ymdrech fwriadol i dwyllo ar ei ran ef.
Ymatebodd y Gyrrwr i gwestiynau’r aelodau ac
ymhelaethodd ar yr amgylchiadau oedd yn ymwneud â’r drosedd a’i gamau a
derbyniodd y gallai fod wedi darparu tystiolaeth i gefnogi ei ochr ef. O ran diffyg datguddio'r
euogfarn cyfeiriodd y Gyrrwr at ei amgylchiadau personol ar y pryd gan ddweud bod
yr euogfarn wirioneddol wedi mynd o'i feddwl ac nad oedd yn gyrru tacsis yn
llawn amser. Yn ei ddatganiad
terfynol ailadroddodd y Gyrrwr ei fod wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol trwy
beidio â datgelu'r euogfarn.
Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried yr achos
a -
PENDERFYNWYD gwrthod cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif 510104.
Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu –
Ystyriodd Aelodau ffeithiau’r achos a’r ple lliniaru a
gyflwynwyd gan y gyrrwr a’i ymateb i gwestiynau yn ofalus. Roedd y pwyllgor wedi darganfod anghysondeb rhwng yr hyn
a ddywedwyd gan y Gyrrwr yn y cyfarfod a'i ddatganiad tyst nad oedd yn
adlewyrchu'n dda ar ei hygrededd ac nad oedd wedi darparu unrhyw dystiolaeth i
gefnogi ei ochr ef. O ran ei ddiffyg datguddio, roedd y ffurflen gais
adnewyddu yn gofyn yn glir am fanylion unrhyw euogfarnau moduro. O ganlyniad, roedd y pwyllgor
yn credu bod y Gyrrwr yn fwriadol wedi methu datgelu’r euogfarn er mwyn sicrhau
y byddai ei drwydded yn cael ei hadnewyddu a'i fod yn gwybod ei fod wedi gwneud
datganiad ffug. Ystyriaeth bwysicaf y pwyllgor oedd
gwarchod y cyhoedd. O ystyried diystyrwch amlwg y Gyrrwr
o’r rheolau a’i ymgais fwriadol i dwyllo nid oedd y pwyllgor yn ei ystyried yn
unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded a phenderfynwyd gwrthod y cais
adnewyddu.
Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu
cyfleu i'r Gyrrwr a chafodd wybod am ei hawl i apelio.