Mater - cyfarfodydd
PROPOSED STATEMENT OF LICENSING POLICY
Cyfarfod: 08/03/2017 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 10)
10 DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU ARFAETHEDIG PDF 87 KB
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n
cyflwyno drafft terfynol Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor i'w fabwysiadu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD fod
Datganiad y Polisi Trwyddedu yn cael ei fabwysiadu i’w weithredu o 1 Ebrill
2017.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) yn cyflwyno’r drafft terfynol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor
i’w fabwysiadu. Roedd yn ofyniad statudol i ymgynghori ac adolygu’r Polisi o leiaf bob 5
mlynedd.
Cynghorwyd yr Aelodau yn dilyn adolygiad o’r
Polisi mai mân newidiadau a gynigiwyd, er enghraifft cyfeirio at ddeddfwriaeth
newydd ac roedd y Polisi wedi ei fformatio yn unol ag awdurdodau trwyddedu
eraill ar draws y rhanbarth er cysondeb. Hefyd cyfeiriwyd at y broses ymgynghori a’r
canlyniadau.
PENDERFYNWYD fod
Datganiad y Polisi Trwyddedu yn cael ei fabwysiadu i’w weithredu o 1 Ebrill
2017.