Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

GROWTH VISION AND STRATEGY FOR THE ECONOMY OF NORTH WALES

Cyfarfod: 28/02/2017 - Cabinet (Eitem 7)

7 GWELEDIGAETH TWF A STRATEGAETH AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 176 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi (copi'n amgaeedig) yn nodi'r cynnydd o ran datblygu Strategaeth Gweledigaeth Twf ac amlinellu'r model llywodraethu rhanbarthol arfaethedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      cadarnhau’r model llywodraethu rhanbarthol a ffefrir o gydbwyllgor statudol ar gyfer datblygiad pellach.

 

 (b)      cyfarwyddo swyddogion i weithio gyda chydweithwyr mewn cynghorau partner yng Ngogledd Cymru i ddatblygu cyfansoddiad a chytundeb rhyngasiantaethol ar gyfer y Cydbwyllgor arfaethedig ac i ddod ag adroddiad yn ôl i’r Cyngor ei ystyried gan ddechrau ar fodel cydbwyllgor statudol gyda phum cyngor partner, o fewn y tri mis cyntaf o dymor newydd y Cyngor, a

 

 (c)       bod y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’u hystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn nodi'r cynnydd o ran datblygu Strategaeth Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru ac yn amlinellu'r model llywodraethu rhanbarthol arfaethedig gyda Chyd-bwyllgor statudol.

 

Roedd y Weledigaeth Twf wedi'i chefnogi gan chwe Chyngor Gogledd Cymru yn yr hydref 2016 a gwahoddir y Cabinet yn awr i gefnogi'r strwythur llywodraethu arfaethedig i ddatblygu'r strategaeth i 'Gais Twf' ar gyfer buddsoddiad cenedlaethol.  Tynnodd yr Arweinydd sylw at y disgwyliadau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru o ran gwaith rhanbarthol i wneud y mwyaf o effaith buddsoddiad, a disgwyliadau Llywodraeth y DU ar gyfer gwaith trawsffiniol a chysylltiadau gydag economïau eraill.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a'r Parth Cyhoeddus gylch gorchwyl y Cyd-Bwyllgor arfaethedig a oedd yn ymwneud â datblygu Cais Twf ffurfiol, gan gytuno ar gynllun buddsoddi, a gosod a goruchwylio cynllun gweithredu.  Pe bai'r model llywodraethu amlinellol yn cael ei gytuno yna byddai mwy o wybodaeth a manylion yn cael eu hychwanegu.  Tynnwyd sylw'r Cabinet at yr Asesiad o Effaith ar Les ac ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr asesiadau o ran buddion a ffactorau risg y trefniadau hynny ynghyd â'r mesurau lliniaru a diogelu i gynorthwyo i sicrhau canlyniad cadarnhaol.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         tynnwyd sylw at seilwaith cludiant fel elfen allweddol o ddarparu'r strategaeth a bod angen gweledigaeth gref o ran hynny, yn enwedig o ran y rhwydweithiau ffyrdd gan gynnwys cysylltiadau rhwng cymunedau gwledig ac economïau eraill, i sicrhau bod Sir Ddinbych mewn sefyllfa dda i elwa ar gam cynnar yn y broses.

·           Nodwyd bod yr A55, A494, A5 a'r A483 oll wedi'u nodi fel blaenoriaethau rhanbarthol.  Cyfeiriwyd hefyd at y Cynllun Cludiant Lleol ar draws y chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru a chytunwyd y byddai'n amserol pe bai'r Cyngor newydd yn adolygu'r strategaeth priffyrdd wrth symud ymlaen.  Roedd y Cabinet hefyd yn falch o nodi bod consortiwm trafnidiaeth rhanbarthol, yn debyg i TAITH, wedi'i gynnig fel rhan o gylch gorchwyl y Cydbwyllgor ar gyfer Cynllunio a Chomisiynu Cludiant, nodwyd pe bai'r model llywodraethu arfaethedig yn cael ei gymeradwyo byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni i ddatblygu ymgynghoriad manwl a chytundeb rhwng awdurdodau a'i gyflwyno'n ôl i'r Cabinet yn ystod tri mis cyntaf o dymor y Cyngor newydd.  Yr aelodaeth a argymhellir ar gyfer y Cyd-Bwyllgor oedd arweinwyr y chwe chyngor.

·         pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau y cyflawnir  buddion pennaf Sir Ddinbych drwy waith rhanbarthol a sicrhau nad oedd y cyngor wedi'i ddifreinio o ganlyniad i hynny.  Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y trafodaethau a gynhaliwyd mewn perthynas â hynny ac fe gydnabuwyd efallai na fyddai cynlluniau penodol yn darparu buddion ar gyfer y chwe chyngor a byddai'r Cyd-bwyllgor yn trafod y gefnogaeth ar gyfer y cynlluniau hynny a'r pwysau ariannol o ran cyfraniadau cynghorau.  Dylid canolbwyntio ar wneud buddsoddiadau a thyfu economi Gogledd Cymru i ganiatáu mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a sicrhau bod gan breswylwyr sgiliau cyflogaeth.

·         eglurwyd bod gwaith arfaethedig y Cyd-Bwyllgor wedi'i nodi yn y cylch gorchwyl ynghyd â'i gyfyngiadau, a byddai gan gynghorau unigol eu gwaith eu hunain i wneud hefyd i gefnogi datblygiad economaidd eu hardal, gan gynnwys adfywio.  Roedd dyrannu cyllid llywodraeth yn faes cymhleth ac roedd yn bwysig bod dealltwriaeth glir o ddarpariaeth ariannol i wneud y mwyaf o gyfleoedd buddsoddi.

·         roedd effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl ar yr Iaith Gymraeg wedi'u cynnwys yn yr Asesiad o Effaith ar Les ynghyd â'r camau lliniaru.

·         cynghorwyd yr aelodau bod Carchar EM y Berwyn wedi'u hymgysylltu'n llawn i weithio gyda'r rhanbarth i sicrhau effaith leol gadarnhaol ac unwaith y derbynnir y ffigurau o ran y buddion i Sir Ddinbych  ...  view the full Cofnodion text for item 7