Mater - cyfarfodydd
RHYL WATERFRONT DEVELOPMENT: PHASE 1B COMMERCIAL ELEMENTS
Cyfarfod: 28/02/2017 - Cabinet (Eitem 11)
11 DATBLYGIAD GLAN Y MÔR Y RHYL: CAM 1B ELFENNAU MASNACHOL
I ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol
yr Economi (copi'n amgaeedig) ar y model ariannu.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (11/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (11/3)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo, mewn
egwyddor, yn dibynnu ar drafodaeth derfynol a chytundeb cyfreithiol, y cynnig a
nodwyd i ffurfio cytundebau prydles i gefnogi datblygiad gwesty 73 ystafell
wely, tafarn a bwyty fel rhan o gynllun adfywio Glan y Môr y Rhyl.
Gan
gymeradwyo'r canlynol mewn egwyddor-
-
bod y Cyngor yn cyflawni cytundebau prydlesu cefn
wrth gefn am 25 mlynedd i gefnogi datblygiad gwesty 73 ystafell wely, tafarn
deuluol a bwyty ar lan y môr y Rhyl, yn amodol ar gytundeb terfynol a derbyn
elw rhent wedi hynny'n cynyddu gyda chwyddiant RPI bob pum mlynedd
-
i ddirprwyo awdurdod i gwblhau'r trefniadau
terfynol i'r Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, gyda'r cytundeb terfynol yn
cael ei gymeradwyo gan Arweinydd y Cyngor (fel deilydd portffolio), gan dybio
nad oedd y cytundeb terfynol yn waeth na'r telerau a nodwyd yn yr adroddiad
hwn.
-
i gytuno i drosglwyddo'r safle rhydd-ddaliad am
ddim cost a bod y datblygwr yn gosod y gwerth a amcangyfrifwyd o'r derbyniad
cyfalaf sy'n deillio o werthu'r dafarn/bwyty yn erbyn y gost o ddatblygu'r
safle cyfan a'r gwesty
i gytuno i sefydlu cronfa wrth gefn i roi'r elw rhent ynddo i ddechrau. Bydd hyn yn cronni cyllid y gellid ei ddefnyddio i liniaru risg ariannol y cyngor yn y dyfodol. Bydd y gronfa wrth gefn yn cael ei hadolygu o bryd i'w gilydd gan y Swyddog A.151 a fydd yn gwneud argymhellion ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans adroddiad cyfrinachol ynglŷn a'r model cyllid
arfaethedig ar gyfer Cam 1b Datblygu Glan y Môr y Rhyl.
Cynghorwyd y
Cabinet ynglŷn â'r trafodaethau dwys a pharhaus ynglŷn â'r datblygiad
a'r rhesymau dros y newidiadau i'r cynigion gwreiddiol yn dilyn colli hyder
mewn buddsoddi mewn eiddo yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE. Nid oedd yn ymagwedd heb risgiau ac roedd y
risgiau wedi'u nodi'n glir yn yr adroddiad ynghyd â'r mesurau i liniaru'r risgiau
hynny. Fodd bynnag, credir mai'r cynnig
yw'r unig opsiwn hyfyw sydd ar gael i'r cyngor i symud ymlaen â'r cam hwn o'r
datblygiad. Holodd y Cabinet gwestiynau
ynglŷn â chyfreithlondeb y cynnig a'r risgiau ariannol er mwyn bodloni eu
hunain bod y cynnig yn cynrychioli'r ffordd orau ymlaen yn yr achos hwn o
ystyried maint y risg i'r awdurdod a'r mesurau a awgrymir i liniaru'r risgiau
hynny. Wrth ystyried yr argymhellion
cytunwyd y dylid tynnu'r cyfeiriad at ffigur elw rhent.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig
mewn egwyddor, yn amodol ar drafodaeth derfynol a chytundeb cyfreithiol, i
lunio cytundebau prydlesu i gefnogi datblygu gwesty 73 ystafell wely, tafarn a
bwyty fel rhan o gynllun adfywio Glan y Môr y Rhyl.
Yn benodol
i gymeradwyo, mewn egwyddor-
-
bod y cyngor yn llunio cytundebau prydlesu dilynol
am 25 mlynedd i gefnogi datblygiad gwesty 73 ystafell wely, tafarn deuluol a
bwyty ar lan y môr y Rhyl, yn amodol ar gytundeb terfynol a derbyn elw rhent
wedi hynny sy'n cynyddu gyda chwyddiant RPI bob pum mlynedd.
-
dirprwyo awdurdod i gwblhau'r trafodaethau terfynol
i'r Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, gyda'r cytundeb terfynol yn cael ei
gymeradwyo gan Arweinydd y Cyngor (fel deilydd portffolio), gan dybio nad yw'r
cytundeb terfynol yn sylweddol waeth na'r telerau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
-
cytuno i drosglwyddo safle rhydd-ddaliad am ddim
cost a bod y datblygwr yn gosod gwerth amcangyfrifiedig y derbyniad cyfalaf
sy'n deillio o werthiant y dafarn/gwesty yn erbyn cost datblygu'r safle cyfan
a'r gwesty.
-
cytuno i sefydlu cronfa wrth gefn er mwyn rhoi'r
elw rhent cychwynnol ynddi.
-
Bydd hyn yn
cronni cyllid y gellir ei ddefnyddio i liniaru risg ariannol y Cyngor yn y
dyfodol. Bydd y
gronfa wrth gefn yn cael ei hadolygu'n gyfnodol gan Swyddog A.151 a fydd yn
llunio argymhellion ar gyfer ei defnydd yn y dyfodol.
Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm.