Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PROPOSAL FOR DCC SUPPORTING PEOPLE AND CLWYD ALYN COLLABORATIVE AGREEMENT

Cyfarfod: 28/02/2017 - Cabinet (Eitem 6)

6 CYNNIG AR GYFER CYTUNDEB CYDWEITHREDOL CEFNOGI POBL CSDd A CHLWYD ALYN pdf eicon PDF 88 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Oedolion a Phlant (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y  cynnig am gytundeb cydweithredol i gyflawni prosiect tai â chymorth Y Dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ar gyfer Cytundeb Cydweithredol Cefnogi Pobl (CP) CSDd a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn (CTCA) i gyflawni’r prosiect tai â chymorth Y Dyfodol. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cytundeb ar y cyd rhwng Cefnogi Pobl CSDd a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn i ddarparu prosiect tai â chymorth y Dyfodol o fis Hydref 2018. Roedd y Cabinet eisoes wedi cymeradwyo cynnig i archwilio'r opsiwn o ddatblygu cytundeb partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn ym  mis Tachwedd 2016.

 

Roedd prosiect y Dyfodol a ariennir gan Gefnogi Pobl yn cael ei ddarparu gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn ac yn darparu 35 uned o dai â chymorth ar gyfer pobl ifanc.  Daw'r contract presennol i ben ar 30 Medi 2018 yn dilyn nifer o estyniadau contract er mwyn ail-fodelu'r Dyfodol mewn cydweithrediad â budd-ddeiliaid allweddol fel rhan o ddatblygiad ymagwedd ehangach Llwybr Pobl Ifanc.  Ymhelaethodd y Cynghorydd Feeley ar y rhesymau dros y bartneriaeth arfaethedig yn hytrach na phroses dendro, a oedd yn cynnwys y ffaith y byddai'r prosiect yn cefnogi sawl dyletswydd statudol (gan gynnwys Deddf Tai 2014 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2015) ac yn arwain at leihau amharu ar y gefnogaeth.  Cyfanswm gwerth y contract tair blynedd oedd £1,179,618 ac roedd y gost flynyddol o £393,206 eisoes wedi'i gyllidebu yn Grant CP o 2017/18 ymlaen.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion CP y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·         cadarnhawyd bod aelodau'r Rhyl wedi'u cynnwys yn y prosiect ond cytunwyd y dylid cyflwyno'r cynnig i Grŵp Ardal Aelodau'r Rhyl.

·         cynghorwyd bod y prosiect yn darparu tai â chymorth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-24 oed a bod yr unedau yn orlawn ond tynnwyd sylw at yr ymdrech i wella ymyraethau ar gam cynharach yn y llwybr newydd ar gyfer pobl ifanc a fyddai'n arwain at ostyngiad mewn galw am unedau llety â chymorth.

·         eglurwyd bod y prosiect wedi'i ail-fodelu yn canolbwyntio ar ganlyniadau gwell, yn enwedig o ran addysg a chyflogaeth, gyda phwyslais ar arfogi pobl ifanc gyda'r sgiliau hanfodol ar gyfer annibyniaeth a darparu cefnogaeth yn ôl yr angen.

·         ymhelaethwyd ar y gwaith a wnaed i sicrhau tenantiaethau mewn ystod o farchnadoedd gan ddarparwyr cymeradwy pan fo pobl ifanc yn symud ymlaen o unedau tai â chymorth i sicrhau llety cynaliadwy addas a thenantiaethau llwyddiannus.

·         ymhelaethwyd ar rôl y gwahanol bartneriaid yn ymagwedd y Llwybr Pobl Ifanc a buddsoddiad gan wasanaethau eraill wrth symud ymlaen a manteision dull partneriaeth.

·         cadarnhawyd bod CP yn gweithio yn unol â chanllawiau cysylltiadau lleol a rhoddir blaenoriaeth i bobl leol.

·         o ran digartrefedd cyffredinol, cynghorwyd yr aelodau ynglŷn â'r gefnogaeth sydd ar gael gan gadarnhau bod cefnogaeth yn cael ei gynnig yn rhagweithiol i'r rhai sy'n cysgu ar y stryd

·         darparwyd sicrwydd nad oedd llawer i'w ennill o ran elw ariannol pe bai'r contract yn cael ei roi allan i dendr ond gallai arwain at golli darpariaeth cefnogaeth; cyfeiriwyd hefyd at y prosesau diogelu a deddfwriaethol sydd ar waith o ran dull y cytundeb ar y cyd.

·         ymhelaethwyd ar y buddion cymunedol a gynigir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn mewn perthynas â sgiliau cyflogaeth fel y cyfeiriwyd atynt yn yr Asesiad o Effaith ar Les.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ar gyfer Cytundeb Cydweithredol Cefnogi Pobl (CP) CSDd a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn (CTCA) i gyflawni prosiect tai â chymorth y Dyfodol.