Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

WELSH LANGUAGE STRATEGY

Cyfarfod: 28/02/2017 - Cabinet (Eitem 5)

5 STRATEGAETH Y GYMRAEG pdf eicon PDF 238 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Datblygu Cymunedol (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno'r Strategaeth Gymraeg arfaethedig i'w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Strategaeth arfaethedig ar gyfer y Gymraeg.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad a chyflwyno Strategaeth arfaethedig y Gymraeg (2017-2022) i'w chymeradwyo.  Cyfeiriodd at y sylw negyddol a fu yn y wasg yn ddiweddar ynglŷn â'r ddogfen ac roedd yn gobeithio y byddai'r camau blaengar a nodwyd yn y strategaeth yn cael eu hadrodd yn fwy cadarnhaol yn y cyfryngau yn awr.

 

Cynhyrchwyd y strategaeth mewn ymateb i weithrediad Safonau'r Iaith Gymraeg ac roedd yn nodi sut y byddai'r awdurdod yn hyrwyddo a gwella'r iaith gyda'r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir o 0.5% dros y pum mlynedd nesaf.  Rhannwyd y strategaeth yn themâu strategol- cynllunio strategol, plant a phobl ifanc, cymuned, busnes a'r economi a gweinyddiaeth fewnol o fewn y Cyngor.  Cyfeiriwyd at y gwaith a wnaed eisoes gyda phartneriaid i baratoi a byddai'r strategaeth yn cael ei cyflenwi gan weithio gydag ystod o sefydliadau cymunedol.  Tynnwyd sylw at ddadansoddiad ystadegol o siaradwyr Cymraeg yn y sir, gan gynnwys dylanwad cadarnhaol dysgu mwy o Gymraeg i blant oedran ysgol.

 

Canmolodd yr Arweinydd bod Grŵp Llywio'r Gymraeg wedi'i sefydlu er mwyn hyrwyddo'r Iaith Gymraeg ymhellach ac fe groesawodd y strategaeth fel dull o atal y gostyngiad mewn siaradwyr Cymraeg a rhagori ar y targed o 0.5% yn hirdymor.  Roedd y Cyngor wedi derbyn Safonau'r Iaith Gymraeg ond roedd yn teimlo y gellir dysgu mwy gan awdurdodau eraill sy'n siarad Cymraeg ac awgrymodd y gallai Grŵp Llywio'r Gymraeg archwilio'r mater ymhellach.

 

Croesawodd y Cabinet y strategaeth a'r camau cadarnhaol a nodwyd drwy'r themâu allweddol er mwyn amddiffyn a hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a cheisiwyd sicrwydd ynglŷn â sut y byddai'r camau hyn yn cael eu monitro i sicrhau cynnydd effeithiol.  Eglurwyd y byddai'r camau gweithredu'n cael eu hadrodd yn chwarterol i Grŵp Llywio'r Gymraeg a byddai'r camau yn cael eu cynnwys a'u monitro yn y cynlluniau gwasanaeth.  Gyda'r nod o hyrwyddo'r Gymraeg, tynnodd y Cynghorydd Eryl Williams sylw at lwyddiant cynnal digwyddiadau Cymraeg megis Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd mewn ardaloedd gyda llai o siaradwyr Cymraeg.  Tynnodd sylw hefyd at y cynnydd mewn galw ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sir ac roedd yn teimlo y dylid adlewyrchu hyn yn y strategaeth, ynghyd â'r pwysigrwydd bod disgyblion yn cadw'r iaith ar ôl gadael yr ysgol a sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn iaith fyw y tu allan i'r system addysg.  Croesawodd y Cynghorydd Meirick Davies y strategaeth ond ceisiodd sicrwydd bod adnoddau yn eu lle i sicrhau y gellir ei chyflawni'n ymarferol.  Cytunodd yr Arweinydd bod angen newid diwylliant ac y byddai cynnydd amserol y strategaeth angen cyllid ychwanegol ac mae'n debyg y byddai'n fater i'r Cyngor newydd a Grŵp Llywio'r Gymraeg ei olrhain.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth arfaethedig y Gymraeg.