Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 28/02/2017 - Cabinet (Eitem 9)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - APP 1, Eitem 9 PDF 27 KB
- FINANCE REPORT - APP 2, Eitem 9 PDF 24 KB
- FINANCE REPORT - APP 3, Eitem 9 PDF 19 KB
- FINANCE REPORT - APP 4, Eitem 9 PDF 39 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
-
(a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;
(b) cymeradwyo
trosglwyddo £0.150m o danwariant Cyfleusterau, Asedau a Thai i Gronfa
Datblygiad Glan y Môr y Rhyl a gedwir yn ganolog a’i ddefnyddio i helpu llif
arian nifer o brosiectau, rhai ohonynt eisoes wedi’u cymeradwyo mewn egwyddor,
ac
(c) nodi’r defnydd
arfaethedig o danwariant gwasanaeth lle nodir ac y gofynnir am gymeradwyaeth
ffurfiol pan fydd yr union ffigurau yn hysbys fel rhan o’r Adroddiad
Canlyniadau Terfynol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar
gyfer 2016/17. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn-
·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.241miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau
corfforaethol
·
cyflawnwyd
68% o arbedion hyd yma (targed o £5.2miliwn) ac roedd 2% arall yn gwneud
cynnydd da; byddai 25% yn cael ei ohirio a’i gyflawni yn 2017/18 a 5% yn unig o
arbedion fyddai heb eu cyflawni o fewn yr amserlen
·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol
·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan
gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol)
Gofynnwyd hefyd i'r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo
£0.150m o danwariant Cyfleusterau, Asedau a Thai i Gronfa Wrth Gefn Datblygu
Glan y Môr y Rhyl ac i nodi defnydd arfaethedig tanwariant gwasanaethau lle y
nodwyd hynny.
Codwyd y materion canlynol wrth drafod –
·
Amlygodd
y Cynghorydd Eryl Williams y pwysau cyllidebol ar ysgolion, er y diogelir
cyllideb o 1.85%, gyda 24 ysgol yn amcangyfrif diffyg ar hyn o bryd.
·
Roedd y Cabinet wedi gwneud
penderfyniad eisoes i sefydlu grŵp
tasg a gorffen i adolygu lefel balansau ysgolion a deall y ffactorau sy'n
cyfrannu at y lefelau hynny. Cytunodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd i ddarparu
diweddariad ar gynnydd cyn cyfarfod
nesaf y Cabinet, dylai cyfeiriad at 'Wasanaethau Cymunedol' nodi 'Gwasanaethau
Cymorth Cymunedol'.
·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Bobby Feeley at y posibilrwydd o arbedion pellach o £700mil i
gyfrannu at y gorwariant o £2.3m yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol.
·
Soniodd
y Cynghorydd David Smith am y diffyg cynnydd
o ran dosbarthu'r cyllid cyfyngedig oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru er
mwyn helpu i gwrdd â chostau’r Cyngor wrth adfer gwasanaethau cludiant ar ôl i
GHA Coaches fynd drwyddi. Ni phenderfynwyd hyd yma ar swm y cyllid
ar gyfer Sir Ddinbych, ond er y cafwyd sicrwydd cychwynnol ni fyddai’n ddigon i
gwrdd â’r holl gostau ychwanegol. Un taliad fyddai'r Cyngor yn ei dderbyn, heb
unrhyw ddarpariaeth barhaus. Roedd y Cynghorydd Smith o'r farn bod y sefyllfa yn annerbyniol.
·
yn
dilyn llwyddiant buddsoddiad yn y gwasanaethau hamdden, gofynnodd y Cynghorydd
Hugh Irving am fanylion refeniw i weld sut yr oedd y gwasanaethau hynny yn
perfformio. Cytunwyd y dylid darparu'r wybodaeth honno yn yr Adroddiad Ariannol
rheolaidd nesaf ac fe gynghorwyd y Cabinet bod mwyafrif y buddsoddiad cyfalaf
mewn cyfleusterau hamdden wedi bod yn bosibl oherwydd benthyca darbodus sy'n
hunan-ariannu a oedd yn niwtral o ran costau i'r Cyngor yn ei gyfanrwydd
·
roedd
talu i adael contract y Cynllun Ariannu
Preifat wedi arwain at arbedion sylweddol i'r awdurdod ac roedd y costau cynnal
a chadw wedi'u lleihau hefyd. Byddai pryderon ynglŷn â saernïaeth to Neuadd y Dref Rhuthun a difrod
stormydd diweddar yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau eiddo i'w
harchwilio.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
-
(a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;
(b) cymeradwyo
trosglwyddo £0.150m o danwariant Cyfleusterau, Asedau a Thai i Gronfa wrth gefn
Datblygu Glan y Môr y Rhyl a fydd yn cael ei gadw'n ganolog a'i ddefnyddio i
gynorthwyo â llif arian i nifer o brosiectau, y mae rhai ohonynt eisoes wedi'u
cymeradwyo mewn egwyddor, a
(c) Nodi'r defnydd
arfaethedig o danwariant gwasanaethau lle y nodir hynny ac y ceisir
cymeradwyaeth ffurfiol pan fo'r ffigurau gwirioneddol yn hysbys fel rhan o'r
Adroddiad Alldro Terfynol.