Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

BODYYS FARM, RHEWL, RUTHIN

Cyfarfod: 24/01/2017 - Cabinet (Eitem 16)

16 BOD YNYS FARM, RHEWL, RHUTHUN

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo datganiad y fferm a'r tir nad oes ei angen mwyach a'i waredu wedi hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo datgan Bod Ynys Farm, fel a ddangosir gydag amlinelliad coch ar y cynlluniau yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn weddill i anghenion ac yn cymeradwyo cael gwared ar y fferm.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn argymell y dylai’r Cabinet gymeradwyo datgan y fferm a’r tir a nodwyd yn ychwanegol i anghenion a chymeradwyo cael gwared ag o, yn unol â hynny. 

 

Ystyriodd y Cabinet nodweddion y cynnig ac fe nodwyd bod cael gwared â’r tir yn cyd-fynd â strategaeth ystadau amaethyddol y Cyngor ac y byddai’n creu cyfalaf, er y byddai ychydig o bwysau ar wasanaethau trwy golli incwm rhenti.  Holodd y Cynghorydd Joan Butterfield gwestiynau cyffredinol ynglŷn â chael gwared ag ystadau amaethyddol ac fe’i cyfeiriwyd at Grŵp Gwaith Ystadau Amaethyddol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo datgan Bod Ynys Farm, sydd ag amlinell goch ar y cynlluniau yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn ychwanegol i anghenion ac yn cymeradwyo cael gwared â’r fferm.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm.