Mater - cyfarfodydd
LAND AT TIRIONFA, MELIDEN ROAD, RHUDDLAN
Cyfarfod: 24/01/2017 - Cabinet (Eitem 15)
15 TIR YN TIRIONFA, FFORDD GALLT MELYD, RHUDDLAN
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn argymell
bod y Cabinet yn cymeradwyo datganiad y fferm a'r tir nad oes ei angen mwyach
a'i waredu wedi hynny.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (15/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (15/3)
- Webcast for TIR YN TIRIONFA, FFORDD GALLT MELYD, RHUDDLAN
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo –
(a) datgan bod y tir
glas ( fel y manylir yn Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad) yn weddill i anghenion
y Cyngor a chael gwared ohono ar y farchnad agored;
(b) llunio Cytundeb
Perchnogaeth Tir gyda pherchennog y tir coch
(fel y manylir yn Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad) a rhyddhau’r
cyfamod ar y tir coch sy’n eiddo i drydydd parti yn gyfnewid am hawl tramwy
dros y tir coch a fydd o fudd i’r tir glas a melyn sy’n eiddo i'r Cyngor, a
(c) chael gwared ar
y tiroedd coch, gwyrdd a glas (fel y manylir yn Atodiad A ynghlwm wrth yr
adroddiad) ar y cyd gyda’r perchennog cyfagos a bydd y Cyngor yn derbyn 66.05%
o elw net y gwerthiant, yn dilyn tynnu costau cytunedig ar gyfer sicrhau
caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y tir coch a glas yn unig.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol a oedd yn argymell y
dylai’r Cabinet gymeradwyo datgan bod y tir a nodwyd yn ychwanegol i anghenion
ac y dylid ei waredu am hynny fel y nodir yn yr adroddiad.
Roedd yr
adroddiad yn nodi hanes perchnogaeth a chynllunio’r darnau o dir y cyfeiriwyd
atynt yn yr achos hwn a’r rhesymau dros y cynigion ar gyfer y safle yn dilyn
trafod â pherchennog tir sy’n taro arno ar y ffordd ymlaen. Holodd y Cabinet ynglŷn â threfniadau
mynediad at y darnau o dir a nodwyd, ynghyd â dosbarthiadau'r tir, ac fe nodwyd
cymhlethdodau'r safle. Cyfeiriwyd at
safbwyntiau’r Aelodau Lleol ond derbyniwyd na fyddai cyfyngiad o’r math ar y
tir yn ffafriol i gael po fwyaf bosibl o incwm wrth gael gwared ag o ac y
byddai perchennog trydydd parti’r tir yn gwrthwynebu.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo –
(a) datganiad bod y
tir glas (fel y’i nodir yn Atodiad 1 ynghlwm i’r adroddiad) yn ychwanegol i
anghenion y Cyngor a chymeradwyo cael gwared ag o ar y farchnad agored;
(b) llunio Cytundeb
Perchnogaeth Tir gyda pherchennog y tir coch (fel y’i nodir yn Atodiad 1
ynghlwm i’r adroddiad) a diddymu’r cyfamod ar y tir coch sy’n eiddo i drydydd
parti yn gyfnewid am hawl tramwy dros y tir coch er budd i’r tir glas a melyn
sy’n eiddo i'r Cyngor, a
(c) chael gwared â’r
tir coch, gwyrdd a glas (fel y’i nodir yn Atodiad A ynghlwm i'r adroddiad) ar y
cyd â’r perchennog sy’n taro ar y tir, a bod y Cyngor yn derbyn 66.05% o elw
net y gwerthiant yn dilyn tynnu’r costau y cytunwyd arnynt am gael caniatâd
cynllunio amlinellol ar gyfer y tir coch a glas yn unig.