Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

TO APPROPRIATE THE BENEFIT OF RESTRICTIVE COVENANTS AT EAST PARADE, RHYL TO FACILITATE THE DELIVERY OF THE PROPOSED HOSPITALITY PHASE OF THE WATERFRONT DEVELOPMENT

Cyfarfod: 24/01/2017 - Cabinet (Eitem 14)

14 ADFEDDU MANTEISION CYFAMODAU CYFYNGOL AR RODFA'R DWYRAIN, Y RHYL I HWYLUSO CYFLAWNI CYMAL LLETYGARWCH ARFAETHEDIG Y DATBLYGIAD GLAN MÔR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn argymell meddiannu cyfamodau cyfyngol i hwyluso darpariaeth y Cam Lletygarwch arfaethedig o Ddatblygiad Glan y Môr, Y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylai’r Cyngor feddiannu ar y cyfamodau cyfyngu sy’n rhedeg â’r tir fel a ddangosir gydag amlinelliad coch yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol a oedd yn argymell adfeddu cyfamodau cyfyngol fel y’u nodwyd i hwyluso cyflawni’r Cymal Lletygarwch arfaethedig o Ddatblygiad Glan Môr y Rhyl.

 

Eglurwyd y rhesymau y tu ôl i’r argymhelliad yn sgil y cyfamodau amrywiol a oedd yn rhwystro defnyddio’r tir a’r effaith o ganlyniad i hynny ar y datblygiad.  Eglurwyd materion penodol gan y swyddogion yn atebion i gwestiynau’r aelodau ar hyn, yn enwedig mewn perthynas â’r broses gyfreithiol a’r canlyniadau posibl, gan gynnwys amserlenni a'r goblygiadau ariannol.

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Cyngor adfeddu’r cyfamodau cyfyngu sy’n cyd-fynd â’r tir sydd ag amlinell goch yn Atodiad A yr adroddiad.