Mater - cyfarfodydd
BUDGET 2017/18 - FINAL PROPOSALS
Cyfarfod: 24/01/2017 - Cabinet (Eitem 11)
11 CYLLIDEB 2017/18 – CYNIGION TERFYNOL PDF 105 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn nodi goblygiadau
Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2017/18 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar
gyfer 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
- FINAL BUDGET PROPOSALS - APP 1, Eitem 11 PDF 16 KB
- FINAL BUDGET PROPOSALS - APP 2, Eitem 11 PDF 105 KB
- FINAL BUDGET PROPOSALS - APP 3, Eitem 11 PDF 416 KB
- Webcast for CYLLIDEB 2017/18 – CYNIGION TERFYNOL
Penderfyniad:
RESOLVED that Cabinet –
(a) <}94{>nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2017/18;
(b) cefnogi'r
cynigion a amlinellir yn Atodiad 1, sy’n cyd-fynd â’r tybiaethau a gyflwynwyd i
aelodau yng ngweithdy’r gyllideb a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2016, a gan hynny'n
eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn cwblhau cyllideb 2017/18, ac
(c) argymell i’r
Cyngor, mai’r cynnydd cyfartalog mewn Treth y Cyngor sydd ei angen i gefnogi'r
gyllideb yw 2.75%.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad a oedd yn nodi goblygiadau ariannol
Setliad Llywodraeth Leol 2017/18 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol
2017/18, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.
Trafododd y
Cynghorydd Thompson-Hill broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb yn
fras gan ymhelaethu ar y cynigion i’w hystyried a'u hargymell i’r Cyngor llawn
er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2017/18. Roedd y setliad terfynol wedi
darparu cynnydd ariannol o 0.6% ond roedd yn doriad mewn gwirionedd gan nad
oedd yn ystyried chwyddiant na phwysau'r galw am wasanaethau. Cyfeiriwyd at nifer o gyhoeddiadau
Llywodraeth Cymru y gallent fod o fantais ariannol i'r Cyngor ond nid oeddent
yn rhan o’r setliad ariannol ac felly nid oeddent yn effeithio ar y gyllideb ar
gyfer 2017/18. O ran Treth y Cyngor, ystyrid cynnydd arfaethedig o 2.75% yn
synhwyrol ac yn gynaliadwy.
Trafododd y
Cabinet gynigion ar gyfer y gyllideb a chanolbwyntiai'r trafod ar y canlynol –
·
Pwysleisiodd
y Cynghorydd Eryl Williams y pwysau sylweddol a oedd ar gyllidebau ysgolion, yn
enwedig ar gyfer ariannu disgyblion a chanddynt anghenion arbennig drwy’r
system addysg, a dylid adolygu hynny i leihau’r problemau yn y dyfodol
·
roedd balansau ysgolion wedi lleihau'n
sylweddol yn ddiweddar, ac fe ganmolwyd y gwaith a oedd yn cael ei wneud gydag
ysgolion i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Cododd y
Cynghorydd Bobby Feeley ei phryderon hi ynglŷn â phwysau ar y gwasanaethau
cymdeithasol gan holi a oedd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor yn ddigon
i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau hwnnw.
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod y pwysau parhaus ar ofal
cymdeithasol wedi cael ei gydnabod a bod swm o £750,000 wedi’i gynnwys yng nghynigion
y gyllideb gyda chynlluniau am gynnydd pellach ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, derbyniwyd na fyddai £750,000 yn
cwrdd â'r lefel bresennol o orwariant (£2m) ac nid oedd modd cwrdd â’r pwysau
llawn a oedd yn weddill ym mhob gwasanaeth; byddai angen gwneud penderfyniadau
anodd yn y dyfodol. Ystyriwyd y cynnydd o 2.75% yn lefel synhwyrol a
chynaliadwy. Byddai wedi bod angen
cynyddu Treth y Cyngor y tu hwnt i’r lefel wedi’i chapio i gwrdd â’r holl
bwysau cyfredol. Cyfeiriodd y swyddogion
at y cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru, a oedd yn debygol o fod ar ffurf grant a fyddai'n cael ei
reoli wrth symud ymlaen
·
soniodd
y Cynghorydd David Smith am y cyllid cyfyngedig a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru
er mwyn helpu i gwrdd â chostau’r Cyngor wrth adfer gwasanaethau cludiant ar ôl
i GHA Coaches fynd drwyddi
·
ni
phenderfynwyd hyd yma ar swm y cyllid ar gyfer Sir Ddinbych, ond ni fyddai’n
ddigon i gwrdd â’r holl gostau ychwanegol. Un taliad fyddai'r Cyngor yn ei
dderbyn, heb unrhyw ddarpariaeth barhaus.
Byddai angen trafod ymhellach o ran trefniadau rheoli ar gyfer darparu
gwasanaethau'n barhaus
Cytunodd y
Cabinet bod y gyllideb arfaethedig yn gynhwysfawr ac yn gynaliadwy yn y tymor
byr a'i bod yn caniatáu i’r Cyngor nesaf allu buddsoddi rhywfaint.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) nodi effaith
Setliad Llywodraeth Leol 2017/18; a
(b) chefnogi'r
cynigion a amlinellir yn Atodiad 1, sy’n cyd-fynd â’r rhagdybiaethau a
gyflwynwyd i aelodau yng ngweithdy’r gyllideb a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2016,
a chan hynny'n eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn gosod cyllideb derfynol
2017/18; ac
(c) argymell i’r
Cyngor mai’r cynnydd cyfartalog sydd ei angen yn Nhreth y Cyngor i gefnogi'r
gyllideb yw 2.75%.