Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

HOUSING RENT SETTING & HOUSING REVENUE AND CAPITAL BUDGETS 2017/18

Cyfarfod: 24/01/2017 - Cabinet (Eitem 9)

9 GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2017/18 pdf eicon PDF 123 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo'r Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Cyfalaf a Refeniw.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

RESOLVED that –

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2017/18 (Atodiad 1 yn yr adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Tai (Atodiad 2);;

 

(b)       cynyddu rhenti anheddau Cyngor yn unol â chanllawiau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2015 i £81.77 yr wythnos ar gyfartaledd o ddydd Llun 3 Ebrill 2017; a

 

(c)        chynyddu rhenti ar gyfer garejis y Cyngor yn unol â'r cynnydd mewn rhenti am anheddau Cyngor i £6.85 ar gyfer Tenantiaid y Cyngor a £8.22 ar gyfer Tenantiaid eraill.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynnydd rhent blynyddol tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw.

 

Soniodd y Cynghorydd Thompson-Hill wrth yr aelodau am ffigurau’r gyllideb a rhagdybiaethau lefel yr incwm a oedd wedi’u cyfrifo gan ystyried Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol a’i dull ar gyfer cynyddu rhenti.  Roedd adolygiad blynyddol Cynllun Busnes y Stoc Dai y dangos ei fod yn parhau’n gadarn ac yn ymarferol ac roedd digon o adnoddau ar gyfer rheoli a goruchwylio’r gwasanaeth tai ac anghenion y stoc am fuddsoddi.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol –

 

·         nodwyd y disgwylid o hyd i weinidogion gymeradwyo'r achos busnes i atal gwerthiannau Hawl i Brynu (HiB), er gwaethaf anfon nodiadau atgoffa, a datganodd yr aelodau a’r swyddogion eu rhwystredigaeth yn sgil hynny o ystyried bod yr oedi’n tanseilio gallu’r Cyngor i fuddsoddi a’i fod yn golygu ei fod yn colli mwy o’i stoc dai trwy werthiannau HiB.

·          roedd Llywodraeth Cymru wedi cymryd pedwar mis i brofi cadernid yr achos busnes cyn ei gyflwyno gerbron gweinidogion i’w gymeradwyo fis Tachwedd, a allai gymryd hyd at chwe mis arall.  Cytunodd y swyddogion i ystyried gyda'r Aelod Arweiniol a oedd angen cefnogaeth wleidyddol. Cynhaliwyd arolwg o garejis y Cyngor ac roedd ymgynghoriad ar hyn o bryd gyda Grwpiau Ardal yr Aelodau mewn perthynas â safleoedd garejis y Cyngor a oedd â thir y gellid ei ddatblygu ar gyfer tai. Roedd yr arolwg wedi amlygu llawer o waith cynnal a chadw a oedd heb ei wneud. Nid oedd y rhent a oedd yn daladwy yn ddigon i gwrdd â’r gost a byddai'n cymryd blynyddoedd i'w gwblhau.  Byddai canfyddiadau’r arolwg ynghyd ag ymarferoldeb defnyddio safleoedd garejis y Cyngor at ddibenion eraill yn cael eu cynnwys mewn adroddiad yn y dyfodol

 

·         o ran Safonau Ansawdd Tai Cymru (ATC), roedd elfennau penodol wedi’u cynnwys a'u monitro o fewn Cynllun Busnes y Stoc Dai ac fe soniodd y swyddogion am y safon osod well ar gyfer tai a olygai bod Sir Ddinbych yn darparu tai o ansawdd gwell na Safonau ATC

·         o ran cynyddu rhenti, disgwylid y byddai pob tenant yn talu’r rhent targed llawn o 2021 ymlaen ac roedd Sir Ddinbych yn anelu at y rhent targed canol, yn amodol ar unrhyw oblygiadau o ddiwygio’r gyfundrefn les.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2017/18 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

 (b)      cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â chanllawiau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd fis Ebrill 2015 i rent wythnosol cyfartalog o £81.77 o ddydd Llun 3 Ebrill 2017 ymlaen, a

 

 (c)       chynyddu rhenti garejis y Cyngor yn unol â’r cynnydd yn rhenti anheddau’r Cyngor i £6.85 i Denantiaid y Cyngor ac £8.22 i Denantiaid eraill, yr wythnos.

 

Ar y pwynt hwn (11.45am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.