Mater - cyfarfodydd
COMMUNITY PLANS IN THE NEW COUNCIL
Cyfarfod: 24/01/2017 - Cabinet (Eitem 7)
7 CYNLLUNIAU CYMUNEDOL YN Y CYNGOR NEWYDD PDF 100 KB
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi (copi’n
amgaeedig) sy’n cyflwyno model newydd o gynllunio cymunedol ar gyfer y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- COMMUNITY PLANS REPORT - APP 1 E, Eitem 7 PDF 651 KB
- Webcast for CYNLLUNIAU CYMUNEDOL YN Y CYNGOR NEWYDD
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) <}77{>cytuno nad yw’r Cynlluniau Tref ac Ardal ar gyfer pob ardal Grŵp Ardal
Aelodau yn y Cyngor yn ofynnol mwyach, a
(b) bod y system
newydd o gynllunio cymunedol a ddisgrifir yn yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad ar y cyd â'r Cynghorydd Hugh Jones a
ddisgrifiai fodel cynllunio cymunedol newydd y Cyngor, gyda phwyslais penodol
ar yr angen i symud oddi wrth Gynlluniau Tref ac Ardal (CTAau) o blaid system
hyblyg newydd y gellir ei defnyddio'n fwy eang.
Manylodd
y Cynghorydd Evans ar y model newydd arfaethedig a ddatblygwyd ar ôl ymgynghori
â Chefnogwyr Trefi a Grwpiau Ardal yr Aelodau (GAAau) ac a ganolbwyntiai ar
ddatblygu dull cynllunio cymunedol sy’n galluogi ac sy’n sbardun i’r gymuned, gyda
chefnogaeth a chyngor gan y Cyngor pan fo angen. Os byddai’n cael ei
gymeradwyo, byddai swyddogion yn datblygu ‘pecyn gwaith’ i helpu cymunedau i
ddatblygu eu cynlluniau eu hunain. Byddai’r Cyngor yn rhoi
cefnogaeth a chymorth, yn amodol ar gefnogaeth yr Aelod Lleol neu'r GAA i'r
prosiect, ac mewn achosion lle nad oedd arweinyddiaeth leol er mwyn helpu i
ddatblygu'r ddarpariaeth honno, fel ardaloedd gwledig sydd ar wahân neu ardaloedd difreintiedig. Ni fyddai’r Cyngor yn cefnogi
unrhyw gynnig nad oedd yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, a oedd yn
groes i amcanion y Cyngor neu nad oedd yn defnyddio adnoddau cyhoeddus yn
effeithlon. Awgrymodd
y Cynghorydd Evans i'r Cyngor nesaf lansio'r dull newydd er mwyn codi
ymwybyddiaeth ac er mwyn monitro cynnydd hefyd. Pwysleisiodd y Cynghorydd Hugh
Jones gysylltiadau â’r Cynllun Corfforaethol hefyd, a gwerth aelodau lleol yn
bod yn rhan o brosesau newydd ac yn eu cefnogi er lles eu cymunedau.
Wrth
ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r materion canlynol –
·
amlygwyd pwysigrwydd defnyddio
profiad a llwyddiannau ar draws y Sir hyd yma ac roedd awgrymiadau am sefydlu
cynllun mentora a darparu cronfa/cyfeiriadur data y gallai’r gymuned ei
ddefnyddio er mwyn cefnogi a hwyluso datblygu prosiectau newydd, gan gynnwys
cyllid a grantiau allanol sydd ar gael i brosiectau cymunedol
·
datganwyd pryder na fyddai gan
ardaloedd gwledig llai yr awydd na’r sgiliau i ddatblygu syniadau a gofynnwyd
am sicrwydd na fyddai’r cymunedau hynny'n dod yn ddifreintiedig o ganlyniad i’r
dull newydd. Eglurodd
y Cynghorydd Evans y bwriad i sicrhau na fyddai unrhyw gymuned ar eu colled, a
derbyniwyd bod angen annog y cymunedau. Byddai’r dull newydd yn helpu
i atgyfnerthu cymunedau, bodloni gofynion deddfwriaethol newydd a byddai'n cael
ei ddatblygu ymhellach gan y Cyngor newydd yn dilyn dod â CTAau i ben
·
cyfeiriwyd at yr angen i
ailedrych ar drefniadau llywodraethu ar gyfer y dull newydd
·
roedd rôl Cefnogwyr Trefi yn gysylltiedig
â CTAau a chyflawni'r prosiectau hynny, ond o dan y dull cynhwysol newydd,
byddai rôl allweddol i'r holl aelodau. Awgrymwyd y dylid trefnu
braslun o’r dull newydd a rôl cynghorwyr wrth hwyluso cynllunio cymunedol ar
gyfer cyfarfod Briffio’r Cyngor cyn gynted â phosib' yn dilyn etholiadau mis
Mai ac y dylid trefnu hyfforddiant penodol i aelodau mewn perthynas â hynny ar
y model newydd
·
Tynnodd
y Cynghorydd Joan Butterfield sylw at grwpiau difreintiedig yn y Rhyl ac er ei
bod yn cytuno y dylai cynghorwyr lleol arwain o dan y dull newydd, roedd hi
hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogaeth y Cyngor, yn enwedig i grwpiau heb
yr arbenigedd i ddatblygu prosiectau na chael gafael ar gyllid.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) cytuno nad oes
angen y Cynlluniau Tref ac Ardal ar gyfer pob ardal Grŵp Ardal Aelodau yn
y Cyngor mwyach, a
(b) bod y system
newydd o gynllunio cymunedol a ddisgrifir yn yr adroddiad yn cael ei
mabwysiadu.